PSALM. CXLV.
MI a'th fawrygaf di, fy Nuw,
can's tydi yw fy llywŷdd,
Bendithio dy enw bŷth a wnâf,
mi a'i molaf yn dragywŷdd.
[verse 2] Dy enw a folaf fi bôb dŷdd,
a'th glôd â fŷdd heb orphen,
[verse 3] Yr Arglwydd sŷdd glôd fawr heb wêdd,
a'i fowredd sŷdd heb ddiben.
[verse 4] Cenedl wrth genedl a rônt fawl
i'th ogoneddawl wrthiau;
Gan danu dy nerth rhyd y bŷd,
a dwedyd dy gynneddfau,
[verse 5] Am dy ogonedd mawr, fy Nâf,
mynegaf, a'th gadernyd.
[verse 6] Sôn am dy bethau ofnadwy,
gwnânt hwy a minnau hefyd.
[verse 7] Llwyr goffadwriaeth honot ti,
a'th fawr ddaioni a draethant:
Ac o'th gyfiownder fy Nuw Iôn,
a llafar dôn y canant:
[verse 8] Sef graslawn yw ein Arglwydd ni,
ac o dosturi rhyfedd:
Hŵyr ac anniben yw i ddîg:
llawn frydig i drugaredd.
[verse 9] Da yw yr A••glwydd i bôb dyn,
a'i nodded y'n dycciannol:
Ac ar ei holl ••eithredoedd êf
daw nawdd o'r nêf yn rasol,
[verse 10] Dy holl we••rhredoedd di i'th lwydd,
ô Arglwydd i'th glodforant:
Dy wyrth pan ••elo dy Sainct di,
y rheini a'th rendithiant:
[verse 11] Gan sôn am drugaredd a grâs
dy dyrnas, a'i chadernyd:
Fel dyna'r gerdd sydd yn parhâu,
yn eu geneuau hyfryd.
[verse 12] Fel y parent trwy hyfryd glôd,
gydnabod â'th dyrnassiad,
A'th nerth ym mysg holl ddynol blant,
a'th lawn ogoniant gwastad.
[verse 13] Brenhiniaeth dy dyrnas di frŷ,
a berrŷ yn wastadol,