PSAL. CXLIV.
BEndigaid fo'r Arglwydd fy nerth,
mor brydferth yr athrawa
Fy nwylo i ymladd, a'r vn wêdd,
fy mysedd i ryfela.
[verse 2] Fy nawdd, fy nerth, fy nuw, fy nghrêd,
fy nhŵr, f'ymwared vnig:
Canys trwyddo êf fy mhobl a gâf
tanaf yn ostyngedig.
[verse 3] Pa bêth yw dŷn, dywaid ô Dduw,
pan fyddyt iw gydnabod?
A mâb dŷn pa bêth ydyw fo,
pan fych o hono'n darbod?
[verse 4] Pa bêth yw dŷn? pêth yr vn wêdd
a gwagedd heb ddim hono;
A'i ddyddiau'n cerdded ar y rhôd.
fel cysgod yn mynd heibio.
[verse 5] Gostwng y nefoedd, Arglwydd dâ,
ac edrych draha dynion:
Duw cyffrwdd a'r mynyddoedd frŷ,
gwna iddynt fygu digon.
[verse 6] Iw gwasgar hwynt gyrr fellt i wau,
iw llâdd gyrr saethau tanbaid.
[verse 7] Discyn, tyn fi o'r dyfroedd mawr:
hyn yw, o law'r estroniaid.
[verse 8] Duw gwared fi. Geneuau'r rhain
a fŷdd yn arwain gwegi:
A'i ddehau-law sy yr vn bwyll,
ddeheu law twyll, a choegni.
[verse 9] I ti Dduw, canaf o fawrhâd,
yn llafar ganiad newydd,
Ar nabl, ac ar y dêg-tant,
cei gerdd o foliant beunydd.
[verse 10] Duw i frenhinoedd rhoi a wnaeth,
ei swccraeth at iawn reol:
Dan ymwared Dafydd ei wâs,
rhag cleddyf câs neweidiol.
[verse 11] Duw gwared, achub fi wrth raid,
rhag plant estroniaid digus,
A'i sasn yn llawn o ffalsder gau,
a'i dehau yn dwyllodrus.
[verse 12] Bŷdd ein meibion fel plan-wŷdd cu
o'r bôn yn tyfu'n iraidd:
A'n merched ni fel cerrig nâdd.
mewn conglau neuadd sanctaidd.
[verse 13] A'n congiau'n llawnion obôb pêth,
a'n defaid, difeth gynnŷdd.
Yn filoedd (mawr yw'r llwyddiant hwn)
a myrddîwn i'n heolydd.
[verse 14] A'n hychen cryfion dan y wêdd,
yn hywedd, ac yn llonydd:
Heb dorr na soriant i'n mŷsg ni,
na gweiddi i'n heolydd.
[verse 15] Dedwydd ydyw y bobly sŷ,
a phôb pêth felly ganthynt:
Bendigaid yw'r bobl y rhain yw,
a'r Arglwydd yn Dduw iddynt.