PSAL. CXL.
RHag y gŵr drwg gwared fi (Nêr)
rhag gwr y trowsder efrydd,
[verse 2] Rhai sy yn bradythu yn ddirgel,
a chasglu rhyfel beunydd.
[verse 3] Fel colyn sarph yn llithrig wau,
yw eu tafodau llymion:
Gwenwyn yr asp sydd yn parhau
dan eu gwefusau creulon.
[verse 4] Rhag y dŷn drŵg, rhag y gŵr traws
sy'n myfyr lliaws faglau.
Duw gwared fi, rhag gosod brâd,
ynghylch fy ngwastad lwybrau.
[verse 5] Y beilch cuddiasant fagl a rhwyd,
wrth hon gosodwyd tannau;
Ar draws fy ffyrdd i ddal fy'nhroed:
ynghudd, y rhoed llinynnau.
[verse 6] Dwedais wrth f'Arglwydd fy Nuw wyd,
tyn fi o'i rhwyd a'i maglau:
O gwrando'n fuan f' Arglwydd nêf,
ar brudd lêf fy ngweddiau.
[verse 7] Fy Arglwydd yw fy nerth i gŷd,
a'm coel a'm iechyd calon;
Ti a roist gudd tros fy mhen mau,
yn nŷdd yr arfau gloywon:
[verse 8] I'r dŷn annuwiol, Duw, na âd
ddymmuniad drŵg ei'wyllys;
Rhag ei wneuthur ef yn grŷ,
a'i fynd yn rhŷ drahâus.
[verse 9] A'i holl ddymnniad drŵg i mi,
a'i rhegen weddi greulon,
Y rhai'n yn llwyr a ddônt ymmhen
y capten o'm caseion.
[verse 10] Syrthied arnynt y marwor tân,
ac felly llosgan ymaith.
Bwrier hwynt mewn ceuffosydd nant,
fel na chyfodant eilwaith.
[verse 11] Dŷn llawn siarad fŷdd anwastad,
ni eistedd ef yn gryno:
A drŵg a ymlid y gŵr traws,
o hyn mae'n haws ei gwympo.
[verse 12] Da gwn y rhŷdd yr Arglwydd dâl
i ddial cam y truan,
Ac yr iawn farna y dŷn tlawd
sy'n bŷw ar gerdawd fechan.
[verse 13] Y rhai cyflawn drwy yr holl fŷd,
dy enw a gŷd foliannant.
A'r holl rai vnion heb ofn nêb,
o flaen dy wyneb trigant.