PSALM. CXXXVII.
PAn oeddym gaeth yn Babilon,
ar lan prîf afon groyw,
Mewn coffadwriaeth am Seion,
hidlason ddagrau'n loyw.
[verse 2] Rhoddasom ein telynau 'nghrôg,
ar goed canghennog îrion,
Lle yr oedd prenniau helyg plan,
o ddeutu glan yr afon.
[verse 3] Y rhai a'n dug i garchar caeth,
i ni yn ffraeth gofynnen,
(A ni'n bruddion) gerdd i Seion,
sywaith pêth nis gallen.
[verse 4] O Dduw pa fôdd y canai nêb,
(rhoem atteb yn ystyriol)
I chwi o gerdd ein Harglwydd Dâd,
a ni mewn gwlâd estronol?
[verse 5] Os â Caersalem or côf mau,
angofied dehau gani:
[verse 6] Na throed fy nhafod, oni bŷdd,
hi'n ben llawenydd i mi.
[verse 7] Cofia di Dduw, blaut Edom lemm,
yn nŷdd Caersalem howddgar:
Noethwch dinoethwch (meddei rhain)
ei mur a'i main i'r ddaiar.
[verse 8] Bŷdd gwyn eu bŷd i'r sawl a wnêl
i ti, merch Babel rydost,
Yr vnrhyw fesur, gan dy blau,
i ninnau fel y gwnaethost.
[verse 9] Y sawl a gymro dy blant di,
bô'r rheini fendigedig,
Ac a darawo'r eppil tau,
a'i pennau wrth y cerrig.