PSAL. CXXXVI.
MOlwch yr Arglwydd. can's dâ yw,
molienhwch Dduw y llywŷdd,
Can's ei drugaredd oddi frŷ,
a berŷ yn dragywydd.
[verse 2] Molwch chwi Dduw y duwiau'n rhwydd
[verse 3] ac Arglwydd yr arglwyddi,
[verse 4] Hwn vnig a wnaeth wrthiau mawr,
drwy ei ddirfawr ddaioni.
[verse 5] Gwnaeth â'i ddoethineb nêf wchben,
[verse 6] a'r ddaiaren a'r dyfredd,
Y rhai yw prîf sylwedd y bŷd,
ac i gyd o'i drugaredd.
[verse 7] R' hwn a wnaeth oleuadan mawr;
o'r nêf hyd, lawr a'i fowredd.
[verse 8] Haul y dŷdd 9 â'r lleuad y nôs,
i ddangos ei drugaredd.
[verse 10] 'Rhwn a drawodd yr Aipht iw ddîg
a'r blaen-anedig ynthi.
[verse 11] Ac a ddug Israel i'r daith,
ac ymmaith o'u holl gyni.
[verse 12] A hyn drwy law grêf a braich hîr,
o rym ei wîr ogonedd:
[verse 13] a hollti'r môr côch yn ddwy ran,
o anian ei drugaredd.
[verse 14] Dug Israel i'r lan yn wŷch,
fel dyna ddrŷch gorfoledd:
[verse 15] Yscyttia Pharo, a'i holl lu,
a hyn a fu'i drugaredd.
[verse 16] A dwyn ei bobloedd yn ddichwys,
drwy wledydd dyrŷs anian:
[verse 17] Taro brenhinoedd er eu mwyn,
ac felly eu dwyn hwy allan.
[verse 18] Llâdd llawer brennin cadarn llon,
[verse 19] sef Séhon yr Amoriaid:
[verse 20] Ac Og o Basan yn vn wêdd,
o'i fawr drugaredd dibaid,