Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
Argraphwyd yng Haerludd :: Dros Thomas Jones. Ag ar werth drosto ef gan Mr. Charles Beard ..., a Mr. John Marsh ... yn Llundain,
1687.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Psalters.
Bible. -- O.T.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 12, 2024.

Pages

PSAL. CXXXVI.

MOlwch yr Arglwydd. can's dâ yw, molienhwch Dduw y llywŷdd, Can's ei drugaredd oddi frŷ, a berŷ yn dragywydd. [verse 2] Molwch chwi Dduw y duwiau'n rhwydd [verse 3] ac Arglwydd yr arglwyddi, [verse 4] Hwn vnig a wnaeth wrthiau mawr, drwy ei ddirfawr ddaioni.
[verse 5] Gwnaeth â'i ddoethineb nêf wchben, [verse 6] a'r ddaiaren a'r dyfredd, Y rhai yw prîf sylwedd y bŷd, ac i gyd o'i drugaredd.
[verse 7] R' hwn a wnaeth oleuadan mawr; o'r nêf hyd, lawr a'i fowredd. [verse 8] Haul y dŷdd 9 â'r lleuad y nôs, i ddangos ei drugaredd. [verse 10] 'Rhwn a drawodd yr Aipht iw ddîg a'r blaen-anedig ynthi. [verse 11] Ac a ddug Israel i'r daith, ac ymmaith o'u holl gyni.
[verse 12] A hyn drwy law grêf a braich hîr, o rym ei wîr ogonedd: [verse 13] a hollti'r môr côch yn ddwy ran, o anian ei drugaredd. [verse 14] Dug Israel i'r lan yn wŷch, fel dyna ddrŷch gorfoledd: [verse 15] Yscyttia Pharo, a'i holl lu, a hyn a fu'i drugaredd.
[verse 16] A dwyn ei bobloedd yn ddichwys, drwy wledydd dyrŷs anian: [verse 17] Taro brenhinoedd er eu mwyn, ac felly eu dwyn hwy allan. [verse 18] Llâdd llawer brennin cadarn llon, [verse 19] sef Séhon yr Amoriaid: [verse 20] Ac Og o Basan yn vn wêdd, o'i fawr drugaredd dibaid,

Page [unnumbered]

[verse 21] A'i holl diroedd hwynt i gŷd, eu rhoi yn fywŷd bydol [verse 22] I Israel ei wâs a wnaeth, yn ettifeddiaeth nerthol.
[verse 23] Hwn i'n cystudd a'n cofiodd ni, o'i fawr ddaioni tirion. [verse 24] Ac a'n hachubodd yn ddiswrth oddiwrth ein holl elynion. [verse 25] Yr hwn a ymbyrth bôb rhyw gnawd, yn ddidlawd o'i drugaredd, [verse 26] Clodforwch Dduw brenin y nêf, rhowch iddo êf ogonedd.
[verse 27] Molwch Arglwydd yr arglwyddi, vwchben pôb rhi o fowredd Duw'r duwiau, Iôr vwchben pôb Iôn. a ffynnon y drugaredd.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.