PSALM. CXXIV.
DYma'r amser yn ddiymgêl,
gall Israel, fynegi,
Yr Arglwydd nêf oni bai ei fôd,
a'i arfod gydâ nyni.
[verse 2] Gydâ ni oni bai ei fôd,
pan ddaeth gwrth-drafod dynion:
[verse 3] Pan gododd llîd i'n a phoeni,
llyngcasent ni yn fŷwion.
[verse 4] Y dyfroedd a'n boddasent ni,
a'n hoes dan gefnlli buan:
[verse 5] Chŵyddasent drosom, fel chŵydd dŵr;
fel dyna gyflwr truan.
[verse 6] Bendigaid Iôr ei law a droes:
ac êf ni roes mo honom
Yn ysglyfaeth i'n rhwy go'n frau,
iw gwâg efeiliau llymion.
[verse 7] Ein henaid aeth yn rhŷdd o lŷn,
sal yr aderyn gwirion,
Rhwyd yr adarwr torri a wnaeth,
a ninnau aeth yn rhyddion.
[verse 8] Ein holl gynnorthwy ni a'n llwydd,
sy'n nerth yr Arglwydd howddgar,
Yr hwn drwy waith ei ddwylaw êf,
a greawdd nêf a daiar.