Page [unnumbered]
PSALM. CXXII.
I Dŷ'r Arglwydd (pan ddwedent) awn,
i'm llawen iawn oedd wrando:
[verse 2] Sain traed o fewn 'C••er-Salem byrth,
yr vn ni syrth oddiyno.
[verse 3] Caersalem lân ein dinas ni,
ei sail sŷdd ynddi ei hunan,
A'i phobl sŷdd ynddi yn gytûn,
a Duw ei hun a'i drigfan.
[verse 4] Can's yno y daw y llwythau 'nghŷd,
yn vnfryd, llwythau'r Arglwydd:
Tystiolaeth Israel a'i drig-fod,
a chlôd iw fawr sancteiddrwydd.
[verse 5] Can's yno cadair y farn sŷdd:
eisteddfod Dafydd yno.
[verse 6] Erchwch i'r ddinas hêdd a mawl:
a llwydd i'r sawl a'th garo.
[verse 7] O fewn dy g••erau heddwch boed,
i'th lysoedd doed yr hawddfyd.
[verse 8] Er mwyn fy'mrodyr mae'r Arch hon;
a'm cymydogion hefyd.
[verse 9] Ac er mwyh tŷ'r Arglwydd ein Duw,
hwn ynot yw'n rhagorol:
O achos hyn yr archaf fi,
i ti ddaioni rhadol.