[verse 105] Tyngais, a chyflawni a wnâf,
y cadwaf dy lân ddeddfau:
[verse 106] Cystuddiwyd fi'n fawr, Arglwydd dâ:
bŷwhâ fi'n ôl d'addewyd:
[verse 107] Bedloner di, ô Arglwydd mau,
ag offrwm genau diwyd.
A dŷsg i'm dy holl farnau draw,
[verse 108] F'naid fy' im llaw'n wastadol:
Am hynny nid anghofiais chwaith,
dy lân gyfraith sancteiddiol.
[verse 109] Yr annuwolion i'r ffordd fau,
rhoddasant faglau geirwon:
Ni chyfeiliornais i er hyn,
ond dilyn dy orchmynion.
[verse 110] Cymrais yn etifeddiaeth lân,
bŷth weithian dy orchmynion,
O herwydd mai hwyntwy y sŷdd,
lawenydd mawr i'm calon.
[verse 111] Gostyngais i fy nghalon bûr,
i wneuthur drwy orfoledd.
Dy ddeddfau di tra fwy'n y bŷd,
a hynny hŷd y dîwedd.
Samec. Rhan. 15.
[verse 112] Dychmygion ofer caseis i,
a'th gyfraith dî a hoffais.
[verse 113] Lloones a tharian i'm yw dair:
with dy air y disgwyliais.
[verse 114] Ciliwch rai drŵg oddiwrthi fi,
fy Nuw cadwaf ei gyfraith,
[verse 115] Cynnal fi â'th air, a bŷw a wnâf,
ni wridaf am fy ngobaith.
[verse 116] O cynnal fi, fy' Arglwydd Nâf,
a byddafiich dragwyddol:
Ac yn dy ddeddfau iâch y bŷdd
fy llawenydd gwastadol.
[verse 117] Sethraist O Arglwydd, yr holl rai
a ai oddiwrth dy ddeddfau:
Am mai oferedd gar dy fron
oedd eu dychmygion hwythau.
[verse 118] Difethaist holl rai drŵg y tir,
fel y difethir sothach.
Am hyn dy dystiolaethau di,
a gerais i'n anwŷlach.
[verse 119] O Arglwydd Dduw rhag ofn dy ddig,
fy gnhawd am cîg a synnodd.
[verse 120] Rhag dy farnedegaethau di,
fy yspryd i a ofnodd.
Ain Rhan. 16.
[verse 121] Barn a thrugaredd a wneuthym,
na ddod fi ŷm caseion:
[verse 122] O Arglwydd, dŷsg ddaioni i'th wâs,
achub Rhag câs y beilchion.
[verse 123] Pallai'n golwg yn disgwyl llawn
iechyd o'th gyfiawn eiriau.
[verse 124] Yn ôl trugaredd â'th wâs gwna,
dŷsg im'in ddâ dy ddeddfau.
[verse 125] Dy wâs wyf fi, deall i'm dôd,
i wybod dy ammodau.
[verse 126] Madws it (Arglwydd) roddi barn,
torwyd dy gadarn ddeddfau.
[verse 127] Mwy nag aur hoffais dy ddeddf di,
pe rhôn a'i goethi yn berffaith.
[verse 128] Yn vniawn oll y cyfrifais,
caseais lwybrau diffaith.
Pe. Rhan. 17.
[verse 129] Rhyfedd yw dy dystiolaethau,
fy enaid innau a'i cadwodd.
[verse 130] Egoriad d'air yn olau caid,
i weiniaid pwyll a ddysgodd.
[verse 131] Dyheais gan chwant (O Dduw Iôn)
i'th lân orchmynion Croyw.
[verse 132] Edrych di arnaf megis ar
y rhai a gâr dy enw.
[verse 133] Yn ôl d'air oyfarwydda 'nrhoed,
anwiredd na ddoed arnaf.
[verse 134] O gwared fi rhag trowsedd dŷn,
a'th orchymmyn a gadwaf,
[verse 135] Llewyrcha d'wyneb ar dy wâs:
dŷsg i mi flâs dy ddeddfau.
[verse 136] Dagrau o'm golwg llifo' a wnânt,
nas cadwant dy gyfreithiau.
Tsade. Rhan. 18.
[verse 137] Cyfiawn ydwyt (ô Arglwydd Dduw)
ac vniawn yw dy farnau.
[verse 138] Dy dystiolaethau yr vn wêdd,
ŷnt mewn gwirionedd hwythau.
[verse 139] Fy serch i'th air a'm difaodd,
pan anghofiodd y gelyn.
[verse 140] Dy'madrodd purwyd drwy fawr râs,
hoffodd dy wâs d'orchymyn.
[verse 141] Nid anghofiais dy gyfraith lân,
er bod yn fychan f'agwedd.
[verse 142] Dy gyfiawnder di cyfiawn fŷdd:
a'th ddeddf di sŷdd wirionedd.
[verse 143] Adsŷd cefais, a chystudd maith:
dy gyfraith yw 'nig••ifwch.
[verse 144] Gwna i'm ddeall cysiawnder gwiw
a byddaf fŷw mewn heddwch.
Koph. Rhan. 19
[verse 145] Llefais â'm holl galon, ô clŷw,
a'th ddeddfau Dduw a gadwaf.
[verse 146] Arnatillefais, achub fi,
a'th lwybrau dî a rodiaf.