PSALM. CXVIII.
MOlwch yr Arglwydd, can's dâ yw
moliannu Duw y llywydd,
O herwyd ei drugareddau,
sŷdd yn parhâu'n dragywydd:
[verse 2] Dweded Israel dâ yw êf,
a'i nawdd o nêf ni dderfydd,
[verse 3] Dweded tŷ Aaron mai da yw,
trugaredd Duw'n dragywydd.
[verse 4] Y rhai a'i hofnant êf yn lân,
a ganan yr vn cowydd,
Rhôn iw drugaredd yr vn glôd,
sêf ei bôd yn dragywydd.
[verse 5] Im hing gelwais ar f' Arglwydd eu
hawdd gantho fu fy nghlywed:
Ef a'm gollyngodd i yn rhŷdd
o'i lân dragywydd nodded.
[verse 6] Yr Arglwydd sŷdd i'm gyda mi,
nid rhaid ym, ofni dynion.
[verse 7] Yr Arglwydd sŷdd ynghŷd â mi,
er cosbi fy ngelynion.
[verse 8] Gwell yw gobeithio yn Nuw cûn,
nag mewn vn dŷn o'r aplas:
[verse 9] Gwell yw gobeithio yn yr Iôn,
nâ'r tywysogion pennaf.
[verse 10] Doed y cenhedloedd arna'i gŷd,
a'i brŷd ar wneuthur artaith:
Ond yn enw y gwîr Arglwydd Nâf,
myfi a'i torraf ymaith.
[verse 11] Daethant i'm cylch ogylch i'm cau,
ac ar berwylau diffaith,
Ond yn enw yr Arglwydd Nâf,
myfi a'i torraf ymaith.
[verse 12] Daethant i'm cylch fel gwenyn mân:
fel dîffodd tân mewn goddaith,