Caph. Rhan. 11.
[verse 81] Gan ddisgwil am dy iechyd di,
mae f'enaid i mewn diffig:
Yn Gwilied beunydd wrth dy air,
ô Arglwydd cair fi'n ddiddig.
[verse 82] Y mae fy llygaid mewn pall ddrŷch
yn edrych am d'addewŷd,
Pa brŷd (ô Arglwydd, dwedais i)
i'm didd eni a'th iechyd?
[verse 83] Can's ••••••f fel costrel mewn mŵg cau
cofiais dy eiriau cyfion.
[verse 84] Pa hŷd yw amser dy wâs di?
pa brŷd y berni'r trowsion?
[verse 85] Cloddiai'r beilchion i'm byllau: hyn
sy'n erbyn dy gyfreithiau.
[verse 86] Gwirionedd yw d'orchmynion di,
cymmorth fi rhag cam faglau.
[verse 87] Braidd na'm dif••nt o'r tîr ar gais:
ond glynais wrth d'orchmynion.
[verse 88] Bŷwhâ fi Dduw, i gadw'n glau,
dystiolaeth d'enau ffyddlon.