PSALM. CXIV.
PAn ddaeth Israel o'r Aipht faith,
A thŷ Iaco o estron iaith,
[verse 2] Iuda oedd ei sancteiddrwydd êf,
Israel oedd benaethiaeth Iôr,
[verse 3] Gwelodd hyn a chiliodd y môr,
a throes iw hôl Iorddonen grêf.
[verse 4] Neidiai'r mynyddoedd megis hŷrdd,
A'r brynniau mal ŵyn llamment ffŷrdd,
cawsant wastad megis llawr dôl.
[verse 5] Ciliaist (ô fôr) dywaid pa ham?
Tithau Iorddouen lathraidd lam.
pa'm y dadredaist dithau'n d'ôl?
[verse 6] Chwychwi fynyddoedd pa'm y ffoech
Fel hyrddod? a pham nad arhoech
a chwithau frynniau fal ŵyn mân?
[verse 7] Am mai rhaid ofni Duw Iago,
[verse 8] Yr hwn sy'n troi'r graig yn llyn trô,
a'r callestr yn ffynnon ddwfr glân.