PSALM. CXIII.
CHwi weision Duw molwch yr Iôn,
Molwch ei enw a llafar dôn,
[verse 2] Bendigaid fytho ei enw êf.
[verse 3] O godiad haul hyd fachlud dŷdd,
Mawr enw yr Iôn moliannus fŷdd,
yn y bŷd hwn, ac yn y nêf.
[verse 4] Derchafodd Duw vwch yr holl fŷd,
A'i foliant aeth vwch nêf i gŷd.
[verse 5] pwy sy gyffelyb 'in Duw ni?
Yr hwn a breswyl yn y nêf,
[verse 6] I'r ddaiar hon darostwng êf,
gwŷl êf ein cam clyw êf ein crî.
[verse 7] Yr hwn sy'n codi'r tlawd o'r llŵch,
A'r rheidus o'i ddiystyrwch,
[verse 8] iw gosod vwch pennaethiaid bŷd.
[verse 9] I'r ammlhantadwy mae'n rhoi plant,
Hil têg, a thylwyth, a llwyddiant;
am hyn moliennwch Dduw i gŷd.