PSALM. CXI.
CLodforaf fi fy Arglwydd Iôn,
o wyllys calon hollawl,
Mewn cynnulleidfa gar eu bron,
mewn tyrfa gyfion rasawl,
[verse 2] Mawr iawn yw gwrthiau'n Arglwydd ni
hysbys i bawb a'i hoffant.
[verse 3] Ei waith a'i iownder pery bŷth,
a'i wehelyth ogoniant.
[verse 4] Yr Arglwydd a wnaeth ei goffâu,
am ryfeddodau nerthol:
Can's Arglwydd nawdd-fawr yw i ni,
llawn o dosturi grasol.
[verse 5] Ef i bôb rhai a'i hofnant êf,
rhŷdd gyfran grêf at fywyd:
Ac yn dragywydd y myn fôd
côf o'i gyfammod hefyd:
[verse 6] Mynegodd êf iw bobl i gŷd,
gadernyd ei weithredoedd:
A rhoddi iddynt hwy a wnaeth
'tifeddiaeth y cenhedloedd.
[verse 7] Gwirionedd a barn ydyw gwaith
ei ddwy law berffaith efo:
A'i orchymynion sy ffyddlon iawn.
a da y gwnawn eu gwrando.
[verse 8] Y rhai'n sy gwedi eu sicrhâu,
dros bŷth yn ddeddfau cyfion:
Gwedi eu gwneuthur hwy mewn hêdd
a thrwy wirionedd vnion.
[verse 9] Anfonodd gymmorth iw bobl êf,
cyfammod grêf safadwy,
Archodd hyn: bo iw enw fawl,
sancteiddiawl ac ofnadwy.
[verse 10] Dechreuad pôb doethineb ddofn
i bawb yw ofn yr Arglwydd,
Dâ yw deall y sawl a'i gwnai,
a'i ofn a sai'n dragywydd.