PSALM. CX.
DWedai'r Arglwydd wrth f' Arglwydd mau
ar fy llaw ddeau eistedd:
Nes rhoddi rhai a gais dy waed
yn faingc-draed yt, i orwedd.
[verse 2] 'R Arglwydd denfyn ffrewyll dy nerth
o ddinas fowrwerth Seion,
Pan lywodraethech yn eu mŷsg,
gwna derfysg ar d' elynion.
[verse 3] Yn nŷdd dy nerth dy bobl a ddaw,
ag aberth llaw'n wyllysgar,
Yn sanctaidd hardd daw'r cynnyrch tau
o wlîth y borau hawddgar,
[verse 4] Yr Arglwydd tyngodd, ac ni wâd,
ti sy'n offeiriad bythol,
Wrth vrdd Melchisedech oddi frŷ
a beru yn dragwyddol.
[verse 5] Yr Arglwydd ar dy ddehau law,
brenhinoedd draw a friwa,
Yn nŷdd ei ddig gwna'n archollion
frenhinoedd cryfion, meddaf
[verse 6] Ar y cenhedloedd rhŷdd farn iawn,
a'i gwlâd gwna'n llawn celanedd:
A'llawer pen dros wledydd mawr,
a dyrr i lawr yn vnwedd.
[verse 7] O wîr frŷs i'r gyflafan hon,
fe ŷf o'r afon nesaf,
A gaffo ar ei ffordd yn rhwydd,
a'r Arglwydd a'î derchafa.