PSALM. CV.
CLodfored Pawb yr Arglwydd nêf,
ar ei enw êf y gelwch,
A'i weithredoedd ymmŷsg probloedd,
yn gyhoedd a fynegwch.
[verse 2] Cenwch ei gerdd, clodforwch hwn,
â'i ddidwn ryfeddodau.
[verse 3] Y rhai a gais ei enw, (y Sanct)
llawenant â'u calonnau.
[verse 4] Ceisiwch yr Arglwydd a'i nerth mawr,
a'i fôdd bôb awr yn rhadlon,
[verse 5] Cofiwch ei holl ryseddodau,
a barn ei enau cyfion.
[verse 6] O hâd Abraham ei wâs fô,
ô feibion Iaco 'r ethol:
[verse 7] Ef yw'n Duw, a'i farn êf aeth
dros holl diriogaeth fydol.
[verse 8] Bôb amser cofiodd ei gyngrair,
ei air, a'i rwym ammodau
[verse 9] Ag Abraham, Isaac. a'i hîl,
a mîl o genhedlaethau.
[verse 10] Fe roes i Iaco hyn yn ddeddf,
ac yn rwym greddf dragywyddol.
[verse 11] Ac i Israel y rhoês lân
wlâd Canaan yn gartrefol.
[verse 12] Pan oedd yn ana ml iawn eu plaid,
a hwy yn ddieithraid ynddi;
[verse 13] Ac yn rhodio o'r wlâd i'r llall,
yn dioddef gwall a chyni:
[verse 14] Llesteiriodd iddynt gam yn dynn:
o'r achos hyn brenhinoedd
A gery ddodd êf yn eu plaid:
a'i air a gaid yn gyhoedd.
[verse 15] A'm eneiniog na chyffyrddwch:
na ddrygwch fŷ mhrophwydi.
[verse 16] Galwodd am newyn ar y tîr.
yn wîr dug fara'honi.
[verse 17] O flaen ei blant y gyrodd râs,
Joseph yn wâs a werthwyd.
[verse 18] Ar ei draed y rhoed hayarn tynn,
mewn gefyn y cystuddiwyd.
[verse 19] Gŵsgodd y gefyn hyd y bŷw,
nes i air Duw amseru:
Drwy Dduw y Cafas êf ryddhâd,
a phrifiad er ei garu.
[verse 20] Yna y gyrrwyd iw gyrchu fo
gar bron hên Pharo frenin:
Ac y gollyngwyd êf ar lêd,
o'i gam gaethiwed ryflin:
[verse 21] O hyn ei osod êf a wnaeth
yn bennaeth ar ei deuly,
Ac o'i holl gyfoeth êf a'i wlâd,
os da fawr-hâd oedd hynny.
[verse 22] I ddysgu rheolwyr ei lŷs
ei wllys a'i fodlondeb:
I fforddio henuriaid y wlâd,
yn wastad mewn doethineb.
[verse 23] Daeth Israel i'r Aipht tîr Cham,
lle'r oedd yn ddinam estron;
[verse 24] Lle llwyddodd Duw hîl Iago bâch
yn amlach nâ'i caseion.
[verse 25] Yna y troes ei calon gau,
i lwyr gasâu ei bobloedd:
Iw weision êf i wneuthur twyll,
a llid (nid amwyll) ydoedd.
[verse 26] Duw gyrrodd Foesen ei wâs hên,
ac Aaron llen dewisol,
[verse 27] Yn nhîr Ham i arwyddoccâu
ei nerth a'i wrthiau nodol.
[verse 28] Rhoes Duw dywyllwch dros y wlâd,
er hyn ni châd vsydd-dod.
[verse 29] Eu dyfroedd oll a drôed yn waed,
a llâdd a wnaed eu pysgod.
[verse 30] Iw tîr rhoes lyffaint, heidiau hyll
yn stefyll ei brenhinoedd:
[verse 31] Daeth ar ei air wŷbed, a llau,
yn holl fannau eu tiroedd.
[verse 32] Fe lawiodd arnynt genllysc mân,
a'i tîr â thân a ysodd;
[verse 33] Eu gwinwydd a'i ffigyswydd mâd,
a choed y wlâd a ddrylliodd.
[verse 34] Ceiliog rhedyn, a lindys brŵd,
yn difa cnŵd eu meusydd,
[verse 35] Vwchlaw rhîf, drwy ŷd, gwellt a gwair
a hyn drwy air Duw ddafydd.
[verse 36] Cyntaf anedig pôb pen llwyth,
a'i blaenffrwyth êf a drawodd;
Ymhôb man drwy holl dîr ei gâs;
a'i bobl o'i râs a gadwodd:
[verse 37] Aca'i dug hwynt yn rhŷdd mewn hêdd
o'winedd eu caseion,
Heb fôd o honynt vn yn wan,
ac aur ac arian ddigon.