Yn drwn olwynog: mae ei hynt
vwch esgyll gwynt yn rhodio.
[verse 4] Gwnaeth bôb chwythad iddo'n gennad,
gogonedd y ffurfafen;
A'i weinidogion o fflâm dân,
a wibian rhŷd yr wybren.
[verse 5] Crêf y rhoes fail y ddaiar gron,
fel na sufl hon oddiy no:
Yr hon a bery fel y rhoes,
o oes i oes heb siglo:
[verse 6] Tydi (Dduw) a ddilledaist hon
â'r eigion yn fantellau;
Ac oni baî dy ddehau law,
ai'r deifr vwchlaw y brynniau.
[verse 7] Gan dy gerydd maent hwy yn ffô,
fel pan y synio taran:
Drwy fraw a brŷs ar hŷd y ddôl,
y deifr iw hôl a lithran.
[verse 8] Weithiau y codai'r deifr yn fryn:
weithiau fel glyn panylent,
Lle y trefnaist îddynt baunwl cau,
ac weithiau y gorphwysent.
[verse 9] Gosodaist derfyn lle yr arhônt,
ac fel nad elont dr••sto:
Ac na ddelont hwy fŷth dros lawr
y ddaiar fawr, iw chuddio.
[verse 10] Rhoes Duw ffynnon i bôb afon,
a phawb a yfant beunydd:
A rhêd y ffrydau rhyd y glynn,
a rhwng pôb hryn a'i gilydd.
[verse 11] Yfant yno anifeiliaid maes,
assynnod myng-laes gwylltion,
Heb ymadael a llawr y nant,
hyd onid yfant ddigon,
[verse 12] Ac adar awyr dônt gar llaw,
i leifiaw rhwng y coedydd:
yn canu ei fawl o bren i bren,
cethlyddiaeth lawen yfydd.
[verse 13] Dwfr ar fynyddoedd lle ni ddaw,
fo wlŷch â glaw oddiarno:
A'r gwastad tir efe a'i gwlŷch,
bôb grwn a rhŷch i ffrwytho.
[verse 14] Parodd i'r gwellt dyfu wrth raid
anifeiliaid: a'r llysiau,
I'r da i ddŷn: Lle rhoes o'r llawr,
ymborthiant mawr rhag angau.
[verse 15] A gwîn llawena calon dŷn,
ag olew tywyn wyneb.
A bara nerthir calon gŵr,
mewn cyflwr digonoldeb.
[verse 16] Prenniau 'r Arglwydd o sugn llawn,
o'i vnîc ddawn y tŷfan.
Sêf y coed cedrwydd brigog mawr,
a roes e'n llawr y Liban.
[verse 17] Lle y mâe nythôd yr adar mân,
mewn prenniau glân cadeir-ir:
Lle mewn ffŷnnidwŷdd glwyswŷdd glyn
mae tŷ'r aderyn trwynhir.
[verse 18] Y mynydd vchel a'r hryn glâs,
yw llwybr y danas fychod:
Ogof y doll-graig a wnâ lês,
yn lloches i'r cwningod.
[verse 19] Fe roes i'r lleuad i chwrs clau,
a'i chyfnewidiau hefyd:
A'r haul o amgylch y bŷd crwn,
fo edwyn hwn oi fachlyd.
[verse 20] Tywyllwch nos a roed wrth raid
i fwystfiliaid y coedydd.
[verse 21] Y llewod rhuant am gael maeth,
gan Ddvw, ysclyfaeth beunydd.
[verse 22] A chwedi cael yr ymborth hyn,
pan ddêl haul attyn vnwaith,
Ymgasglant hwy i fynd iw ffau,
ac iw llochesau eilwaith.
[verse 23] Y prŷd hwn cyfyd dŷn iw waith,
ac iw orchwyliaeth esgyd;
Ac felly yr erys tan yr hŵyr,
lle y caiff yn llwyr ei fywyd.
[verse 24] O Dduw, mor rhyfedd yw dy waith
o'th synwyr berffairh dradoeth:
Gwnaethost bôb pêth ô doethder dawn,
a'r tîr sy lawn o'th gyfoeth.
[verse 25] A'r llydan for, y deifr ymmŷsg,
lle aml yw pŷsg yn llemmain:
Lle yr ymlusgant, rif yr ôd,
bwystrilod mawr a bychain.
[verse 26] Yno yr â y llongau glân
dros y Levlathan heiblo.
Yr hwn a osodaist di, lle y mae
yn cael ei chwarae yntho?
[verse 27] Hwynt oll disgwiliant yn ei brŷd
am gael oddiwrthyd borthiant:
I gael dy rôdd ymgasglu ynghŷd,
ie am ei bywyd byddant.
[verse 28] Duw, pan agorech di dy law,
oddi yno daw daioni:
Pob anifail a phôb rhyw bêth,
a ddaw yn ddifeth ini.
[verse 29] Pad guddiech di dy wyneb-prŷd,
a chasglu d'yspryd allan,
Crynant, trengant, ac ânt iw llŵch,
mewn diwedd trŵch a thwrstan,
[verse 30] Duw, pan ollyngech di dy râd,
fel rhoddi cread newydd,
Y môdd hyn wyneb yr holl dîr
a adnewyddir beunydd.
[verse 31] Ir Arglwydd gogoneddus fŷdd
drwy fawr lawenydd bythoedd.