PSALM. CII.
O Arglwydd, erglyw fy ngweddi,
a doed fy nghri hyd attad:
[verse 2] Na chudd d'wyneb mewn ing tra fŵyf,
clŷw, clŷw, pan alwyf arnad.
[verse 3] Fy nyddiau aethant fel y mŵg,
sef cynddrwg im cystuddiwyd:
Fy esgyrn poethant achos hyn,
fel tewyn ar yr aelwyd.
[verse 4] Fy nghalon trawyd â chrŷn iâs,
ac fel y gwelltglas gwywodd:
Fel y•• anghofiais fwyta mwyd
dirmy gwyd fi yn ormodd.
[verse 5] Glynodd fy esgyrn wrth fy nghroen,
gan faint fy mhoen a'm tuchan:
[verse 6] Fel vn o'r anialwch, lle trig
y pelig, neu'r dylluan.
[verse 7] Neu fel vn o adar y tô,
a fai yn gwilio 'i fywyd,
Yn rhodio 'n vnig ben y tŷ:
ŵyf anhŷ ac anhyfryd.
[verse 8] Fy ngelynion â thâfod rhŷdd,
hwy beunydd a'm difenwant:
A than ynfydu yn ei gwŷn,
i'm herbyn y tyngasant.
[verse 9] Fel llŵch a lludw yn fy mhiâ,
fu 'r bara a fwyteais.
Yr vn wêdd yn y ddiod fau
fy nagrau a gymysgais.
[verse 10] A hyn fu o'th ddigofaint di,
am yt' fy nghodi vn waith:
Ac herwydd bôd dy ddig ynfawr,
i'r llaw i'm teflaist eilwaith.
[verse 11] Fy nyddiau troesant ar y rhôd,
ac fel y cysgod ciliant;
A minnau a wywais achos hyn,
fel y glaswelltyn methiant.
[verse 12] Ond tydi Dduw, fy Arglwydd dâ,
a barhei yn dragwyddol,
O oes î oes dy Enw a aeth
mewn coffadwriaeth grasol.
[verse 13] O cyfod bellach trugarhâ,
ô Dduw bŷdd ddâ wrth Sion:
Mae 'n fadws wrthi drugarhâu,
fel dyma'r nodau'n vnion:
[verse 14] Can's hôff iawn gan dy weision di,
ei meini a'i magwyrau,
Maent yn tosturio wrth ei llŵch,
a'i thristwch, a'i thrallodau.
[verse 15] Yno yr hôll genhedloedd bŷw
yr Arglwydd Dduw a ofnant,
A'r holl frenhinoedd trwy y bŷd,
a rônt yt gŷd ogoniant.
[verse 16] Pan adeileder Sion wŷch,
a hon yn ddrŷch i'r gwledydd;
Pan weler gwaith yr Arglwydd nêf,
y molir e'n dragywydd.
[verse 17] Edrychodd hwn ar weddi'r gwael,
rhoes iddynt gael-ei harchau:
[verse 18] Scrifennir hyn: a'r oes yn ôl
a gaiff ei ganmol yntau.
[verse 19] Can's Duw edrychodd o'r nêf fry,
ar ei gyssegr-dŷ, Sion:
[verse 20] Clybu ei griddfan, er rhyddhâu
plant angau 'i garcharorion.
[verse 21] Fel y cydleisient hwy ar gân,
yn Sion lân, ei foliant;