Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.

About this Item

Title
Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd.
Author
Prys, Edmund, 1544-1623.
Publication
Argraphwyd yng Haerludd :: Dros Thomas Jones. Ag ar werth drosto ef gan Mr. Charles Beard ..., a Mr. John Marsh ... yn Llundain,
1687.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Psalters.
Bible. -- O.T.
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001
Cite this Item
"Llyfr y Psalmau,: wedi eu cyfieithu, a'u cyfansoddi ar fefur cerdd, yn gymraeg. / Drwy waith Edmund Prys archdiacon Merionydd." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76681.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 12, 2024.

Pages

PSALM. CII.

O Arglwydd, erglyw fy ngweddi, a doed fy nghri hyd attad: [verse 2] Na chudd d'wyneb mewn ing tra fŵyf, clŷw, clŷw, pan alwyf arnad. [verse 3] Fy nyddiau aethant fel y mŵg, sef cynddrwg im cystuddiwyd: Fy esgyrn poethant achos hyn, fel tewyn ar yr aelwyd.
[verse 4] Fy nghalon trawyd â chrŷn iâs, ac fel y gwelltglas gwywodd: Fel y anghofiais fwyta mwyd dirmy gwyd fi yn ormodd. [verse 5] Glynodd fy esgyrn wrth fy nghroen, gan faint fy mhoen a'm tuchan: [verse 6] Fel vn o'r anialwch, lle trig y pelig, neu'r dylluan.
[verse 7] Neu fel vn o adar y tô, a fai yn gwilio 'i fywyd, Yn rhodio 'n vnig ben y tŷ: ŵyf anhŷ ac anhyfryd. [verse 8] Fy ngelynion â thâfod rhŷdd, hwy beunydd a'm difenwant: A than ynfydu yn ei gwŷn, i'm herbyn y tyngasant.
[verse 9] Fel llŵch a lludw yn fy mhiâ, fu 'r bara a fwyteais. Yr vn wêdd yn y ddiod fau fy nagrau a gymysgais. [verse 10] A hyn fu o'th ddigofaint di, am yt' fy nghodi vn waith: Ac herwydd bôd dy ddig ynfawr, i'r llaw i'm teflaist eilwaith.
[verse 11] Fy nyddiau troesant ar y rhôd, ac fel y cysgod ciliant; A minnau a wywais achos hyn, fel y glaswelltyn methiant. [verse 12] Ond tydi Dduw, fy Arglwydd dâ, a barhei yn dragwyddol, O oes î oes dy Enw a aeth mewn coffadwriaeth grasol.
[verse 13] O cyfod bellach trugarhâ, ô Dduw bŷdd ddâ wrth Sion: Mae 'n fadws wrthi drugarhâu, fel dyma'r nodau'n vnion: [verse 14] Can's hôff iawn gan dy weision di, ei meini a'i magwyrau, Maent yn tosturio wrth ei llŵch, a'i thristwch, a'i thrallodau.
[verse 15] Yno yr hôll genhedloedd bŷw yr Arglwydd Dduw a ofnant, A'r holl frenhinoedd trwy y bŷd, a rônt yt gŷd ogoniant. [verse 16] Pan adeileder Sion wŷch, a hon yn ddrŷch i'r gwledydd; Pan weler gwaith yr Arglwydd nêf, y molir e'n dragywydd.
[verse 17] Edrychodd hwn ar weddi'r gwael, rhoes iddynt gael-ei harchau: [verse 18] Scrifennir hyn: a'r oes yn ôl a gaiff ei ganmol yntau. [verse 19] Can's Duw edrychodd o'r nêf fry, ar ei gyssegr-dŷ, Sion: [verse 20] Clybu ei griddfan, er rhyddhâu plant angau 'i garcharorion.
[verse 21] Fel y cydleisient hwy ar gân, yn Sion lân, ei foliant;

Page [unnumbered]

Ac ynghaer Salem yr vn wêdd, ei fowredd a'i ogoniant. [verse 22] Hyn fŷdd pan gasglo pawb ynghŷd, yn vnfryd iw foliannu: A'r holl drynasoedd dônt yng ŵydd yr Arglwydd, iw wasnaethu.
[verse 23] Duw ar y ffordd lleihâdd fy nerth, byrrhâdd fy mrhydferth ddyddiau, A mi'n disgwyl rhydhâd ar gais, [verse 24] yno y dywedais innau; O Dduw na thorr fy oes yn frau, ynghanol dyddiau f' oedran: Dy flynyddoedd di sydd erioed, o oed î oed y byddan.
[verse 25] Di yn y dechrau dodaist sail. odd' isod adail daiar: A chwmpas ŵybren vwch ein llaw, yw gwaith dy ddwylaw hawddgar. [verse 26] Darfyddant hwy parhei di bŷth, treuliant fel llŷ•••• trwssiadau. [verse 27] Troi hwynt fel gwisg, llygru a wnânt felly newidiant hwythau:
Tithau Argiwydd, yr vn wyt ti, a'th flwyddau ni ddarfyddant. [verse 28] Holl blant dy weision gar dy fron, a'i hŵyrion a bresswyliant.
Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.