PSALM. CI.
DAtcanaf drugaredd a barn,
i'r Arglwydd cadarn canaf.
[verse 2] Byddaf ddeallus mewn ffordd wŷch,
hyd oni ddelych attaf.
A thodiaf yn fy nhŷ yn rhwydd,
a thrwy berffeithrwydd calon.
[verse 3] Pôb peth drŵg sŷdd gennif' yn gâs,
a childyn ddyras ddynion.
[verse 4] Calon gyndyn ynof ni bŷdd,
drŵg weithydd ni 'dnabyddaf.
[verse 5] Sclandrwr dirgel, a'r balch vchel
o'r achos ni oddefaf.
[verse 6] Ar ffyddloniaid mae 'ngolwg i,
fe lŷn y rhei'ni wrthi:
[verse 7] A'r hwn a rodio mewn ffordd ddâ,
hwn a wasnaetha i mi.
[verse 8] Ni chaiff aros o fewn fy nhŷ,
vn dŷn ac sy dwyllodrus,
Yn fy ngolwg vn dŷn ni bŷdd,
a lunio gelwydd trefnus.
[verse 9] Holl annuwiolion fy ngwlâd faith,
yn forau ymaith torraf:
Fel na ddelont i ddinas Dduw,
y cyfryw a ddiwreiddiaf.