PSAL. 98. Annog pob creadur i foli Duw, am ei allu, a'i druga∣••edd, a ffyddlondeb ei gyfammod ynghrist, drwy r hwn y ••ae ein cadwedigaeth ni.
CEnwch i'r Arglwydd newydd gân,
ei waith fu lân ryfeddod:
Ei law ddeau a'i fraich a wnaeth,
i'n iechydwriaeth parod.
[verse 2] Yr Arglwydd bysbys in'y gwnaeth
ei iechydwriaeth gyhoedd.
A'i gyfiownder ef yn dra hawdd
darguddiawdd i'r cenhedloedd.
[verse 3] Fe gofiodd ei drugaredd hir,
a'i wir i dy Israel,
Fel y gwelodd terfynau'r byd
ei iechyd yn ddiymgel.
[verse 4] I'r Arglwydd â chaniad llafar,
chwi yr holl ddaiar cenwch,
A llafar lais, ac eglur lef,
fry hyd y nef y lleisiwch.
[verse 5] Cenwch i'r Arglwydd Dduw fal hyn
â'r delyn, a chywirdant:
A chidâr delyn lais a thôn,
rhowch iddo gyson foliant.
[verse 6] Canu yn llafar ac yn rhwydd,
o flaen yr Arglwydd frenin:
Ar yr udcyrn, a'r chwythgyrn pres,
fal dyna gyffes ddibrin.