[verse 3] Trugarha wrthif Arglwydd mâd,
cans arnad llefa'n ddibaid:
[verse 4] Einioes dy wâs Duw llawenhâ,
cans attad coda t'enaid:
[verse 5] Cans ti o Arglwydd ydyw yd dda
i'th bobloedd a thrugarog,
I'r rhai a alwant arnat ti,
mae dy ddaioni'n bleidiog.
[verse 6] O Arglwydd clyw fy llais mor llym,
a'm gweddi y'm myfyrdod:
[verse 7] Clywi fy llais, gweli fy'nglwyf,
y dydd y bwyf i'm trallod.
[verse 8] Ymysg y duwiau nid oes un,
fel dydi gun gogonedd:
Mysg gweithredoedd cymmain hûn,
nid oes yr un un-weithred.
[verse 9] Y bobloedd oll a wnaethost (Ion)
o'th flaen don ac addolant:
A pha le bynnag ar y bont
i'th enw rhont ogoniant.
[verse 10] Cans tydi ydwyd fawr a phur
yn gwneuthur rhyfeddodau:
A thydi'n unig wyd yn Dduw,
ni cheisiwn amryw dduwiau.
[verse 11] Disg imi dy ffordd (o Arglwydd)
câf yn rhwydd dy wirionedd:
Gwna fy nghalon yn un â thi,
ac ofnaf fi dy fawredd.
[verse 12] Fy Arglwydd Dduw moliannaf di
â holl egni fy nghalon:
Ac i'th fawr enw byth gan dant,
y rhof ogoniant cyson.
[verse 13] Cans mawr yw dy drugaredd di,
tu ac attaf fi yn barod,