PSAL. 7. Erfyn ar Dduw ei gadw rhag cam gyhuddiad, a'i gydwybod yn lân.
O Achub fi fy Nuw, fy Ner,
cans mae fy hyder ynod:
Rhag sy erlidwyr gwared fi,
cans mae o'r rheini ormod.
[verse 2] Rhag llarpio f'enaid fel y llew,
heb vn dyn glew a'm gweryd:
A'm rhwygo i yn ddrylliau mân,
fal dyna amcan gwaedlyd.
[verse 3] O Arglwydd Dduw, os gwneuthym hyn,
os drwg y sy'n fy'nwylaw:
[verse 4] Na thrwy ymddiried, dwyll i neb,
pe bawn wrthwyneb iddaw:
[verse 5] I erlid f'oes y gelyn doed,
dalied, arhoed fi'n isaf.
A sathred f'urddas yn y llwch,
drwy'r diystyrwch eithaf.
[verse 6] Cyfod o Dduw, cyfod i'th ddig,
a gostwng big pob gelyn:
A deffro drosof yn y farn,
sef cadarn yw d'orchymyn.