PSAL. 77. Dafydd yn cofio ar amryw brofedigaethau, a'r blind••∣rau oedd arno: yn dangos mowredd Duw, ac yn ymg••••∣hau mewn ffydd.
Fy llais at Dduw, pan roddais lef,
fy llais o'r nef fo'i clybu;
A'm llais gweddiais ar Dduw Ner,
pan oedd blinder yn tarddu.
[verse 2] Y dydd y rhedai'mriw, a'r nos
ni pheidia achos llafur,
Mewn blin gyfyngder gwn fy mod,
a'm hoes yn gwrthod cysur.
[verse 3] Yna y cofiwn Dduw a'i glod,
pan syrthiai drallod enbyd:
Yna gweddiwn dros fy mai,
pan derfysgai fy yspryd.
[verse 4] Tra fawn yn effro, ac mewn sann,
heb allel allan ddwedyd,