[verse 4] Pawb ofnant pan y gwelant hyn
a chredan yn yr Arglwydd.
[verse 5] Pob gwr yn ddiau dedwydd yw
a rotho ar Dduw ei helynt:
A'r beilch, a'r ffeils a'r chwedlau tro
nid edrych efo arnynt.
[verse 6] Am (o Duw) yw y gwrthiau tau.
fel dy feddyliau ynny,
A heb un dyn yn dysgu i ti,
nac yn blaenori hynny.
[verse 7] Y rhai pe y ceifiwn i drwy gred,
eu rhoi ar led, a'i canu,
Mwy amlach ydynt nag y gall
un dyn heb pall eu traethu.
[verse 8] Ni fynnaist offrwm rhodd, na gwerth
na chwaith un aberth cennyf;
Er hyn fy'nghlustiau i mewn pryd,
hwy a egoryd ymy.
[verse 9] Hyn pan wrthodaist dwedais i
Duw wele fi yn dyfod.
[verse 10] Megis o honof mae gwir pur
yn dy ysgrythur hynod.
[verse 11] Y rhyngwn i dy fodd yn llawn,
(o Dduw) rwy 'n fodlawn ddigon,
Dy ewyllys di a'th lân ddeddf
sy'n greddf yn nautu'r galon.
[verse 12] Mi a bregethais dy air cu
ynghanol llu mawr anian.
Ac nithawaf fy' Arglwydd gwyn)
ti wyddost hyn dy hunan.
[verse 13] Dy iownder, iechyd, a'th air gwir
ni bum chwaith hir i'w celu,
Na'th drugaredd, na'th roddion da
rhag un gynlleidfa meithlu.