PSAL. 36. Cwyno rhag y drygionus, eithr (drwy gydnabed daioni Duw) y mae efe yn ymgysuro.
WRth gamwedd dyn annuwiol sur
mae'n eglur yn fy'nghalon,
Nad oes ofn Duw, na'i farn, na'i ddrwg
o flaen ei olwg trowsion.
[verse 2] Mae yn cyd ddwyn â'i fai ei hun,
ni wyl mo'i wrthun drosedd:
Nes cael yn eglur i'r holl fyd
ei gâs wyd, a'i anwiredd.
[verse 3] Os ei ymadrodd, mae heb wir,
ei enau dihir hydwyll,
Ni fyn wneuthur dim da ychwaith,
yr adyn diffaith dibwyll.
[verse 4] Ef yn ei wely ni chais hûn,
ond gosod llun ar gelwydd:
Os yn effro, neu yn ei waith,
ni ochel daith ann edwydd.
[verse 5] Dy drugaredd (fy Arglwydd Ion)
sydd hyd eithafon nefoedd:
A'th wirionedd di sydd yn gwau,
hyd y cymylau dyfroedd.
[verse 6] Dy uniondeb fel mynydd mawr,
dy farn fel llawr yr eigion.