PSAL. 32. Dedwyddwch y sawl y maddeuwyd eu pechodau: cy∣faddef ei bechodau y mae, a chael madde••ant: cyngor i'r annuwiol i wellau, ae i'r duwiol i orfoleddu.
Y Sawl sy deilwng, gwyn ei fyd,
drwy fadde 'i gyd ei drosedd,
Ac y cysgodwyd ei holl fai,
a'i bechod, a'i anwiredd.
[verse 2] A'r dyn (a gwnfyd Duw a'i llwydd)
ni chyfri'r Arglwydd iddo
Mo'i gamweddau: yr hwn ni châd
dim twyll dichell frâd yntho.
[verse 3] Minnau, tra celwn i fy mai
yn hen yr ai' mhibellion:
A thrwy fy rhuad i bob dydd,
cystuddio y bydd fy'nghalon.
[verse 4] Dy law dithau, y dydd a'r nos,
sydd drom drwy achos arnaf:
Troi ireidd-dra fy esgyrn mêr
fel sychder y gorphennaf.
[verse 5] Yna y trois innau ar gais,
addefais fy enwiredd:
[verse 6] Tyst yn fy erbyn fy hûn fûm,
maddeuaist y'm fy'nghamwedd,
[verse 7] Amserol weddiau am hyn,
a rydd pob glanddyn arnad:
Rhag ofn mewn ffrydau dyfroedd maith,
na chaer mo'r daith hyd attad.
[verse 8] Rhyw loches gadarn wyd i mi,
rhag ing i'm cedwi 'n ffyddlon: