Page 22
PSAL. 26. Y mae Da••ydd yn dangos ei ddiniweidrwydd: ac i ddangos nâd ffug, yw ei weddi, mae fe yn crio erbyn y rhai sydd yn arfer ffug sancteiddrwydd sef ei elynion.
BArnfi (o Dduw) a'chlyw fy llais,
mi a rodiais mewn perffeithrwydd
Ac ni lithraf'am ym'roi 'mhwys,
yn llownddwys ar yr Arglwydd.
[verse 2] Prawf di fy muchedd Arglwydd da,
a hola dull fy mywyd,
A manwl chwilia'r galon fau,
a phrawf f'arennau hefyd.
[verse 3] O flaen fy llygaid, wyf ar lêd
yn gweled dy drugaredd:
Gwnaeth dal ar hynny ar bob tro,
y'm rodio i'th wirionedd.
[verse 4] Nid cyd eistedd gydâ gwagedd,
neu goegwyr yn llawn malais:
[verse 5] Câs gennif bob annuwiol rith,
ac yn eu plith ni 'steddais.
[verse 6] Mi olchaf fy nwy law yn lân,
cans felly byddyn, f'Arglwydd,
Ac a dueddaf t••a'th gor,
ac allor dy sancteiddrwydd.
[verse 7] Y modd hyn teilwng yw i mi,
luosogi dy folyant:
Sef, addas i mi fod yn lân,
i ddatcan dy ogoniant.
[verse 8] Arglwydd cerais drigfan dy dy.
lle'a ery'dy anrhydedd:
[verse 9] N'âd f'enaid i a'm hoes ynghyd
â'r gwaedlyd llawn enwiredd.