PSAL. 141. Dafydd pan oedd Saul yn ei erlid, yn dymuno help gan Dduw: a dioddefgarwch, nes passio'r erlid hwnnw.
O Bryssia Arglwydd, clyw fy llais,
o brysur gelwais arnad;
O'r man lle'y bwyf gwrando fy llef,
a doed i'r nef hyd attad.
[verse 2] Fy'ngweddigar dy fron a ddaw,
gan godi dwylaw'n uchel,
Yn arogl darth ac aberth hwyr,
fel union ddiwyr lefel.
[verse 3] O Arglwydd gofod, rhag gair ffraeth,
gadwriaeth ar fy' ngenau,
Rhag i'm gam-ddwedyd, gosod ddor
ar gyfor fy'ngwefusau.
[verse 4] Na phwysa 'nghalon at ddrwg beth,
ynghyd-bleth â'r annuwiol:
Nag mewn cydfwriad gwaith neu wedd,
rhag twyll eu gwledd ddaintethol.