PSAL. 139. Dafydd er mwyn ei lanhau ei hun, yn dangos nad oes dim yn guddiedig rhag Duw: a thrwy ddangos ei serch tu ag at Dduw, y mae efe yn ymroi i fod yn elyn i'r rhai a wrthynebant Dduw.
ARglwydd, manwl y chwiliaist fi,
da i'm adwaeni hefyd:
[verse 2] Eisteddiad, codiad, gwyddost hyn,
a'm meddwl cyn ei ddwedyd.
[verse 3] Yr wyd ynghylch fy lloches i,
a'm ffyrdd sydd itti'n hysbys:
[verse 4] Nid oes air nas gwyddost ei fod
ar flaen fy 'nhafod ofnys.
[verse 5] O'm hol ac o'm blaen i'm lluniaist,
dy law a ddodaist arnaf:
[verse 6] Gwybodaeth ddieithr yw i mi,
a'i deall hi nis medraf.
[verse 7] I ba le r'af fi i roi tro,
i'mguddio rhag dy Yspryd?
I ba le ffoaf rhag dy wydd,
drwy gael ffordd rwydd i lathlyd?