Page [unnumbered]
PSAL. 137. Yr Israeliaid yn eu caethiwed (wrth glywed y Chal∣deaid yn cablu Duw) sydd yn dymmuno ar Dduw gosbi yr Edomiaid, y rhai a barasent i wyr Babel greuloni wr∣thynt: a prophwydoliaeth am ddinistr Babel.
PAn oeddym gaeth yn Babilon,
ar lan prif afon groyw,
Mewn coffadwriaeth am Seion,
hidlason ddagrau'n loyw.
[verse 2] Rhoddasom ein telynau 'nghrog,
ar goed canghennog irion.
Lle yr oedd preniau helîg plan,
o ddeutu glann yr afon.
[verse 3] Y rhai a'n dug i garchar caeth,
ini yn ffraeth gofynnen,
A ni'n bruddion, gerdd i Seion,
sywaeth peth nis gallen.
[verse 4] O Dduw pa fodd y canai neb,
(rhoem atteb yn ystyriol)
I chwi o gerdd ein Harglwydd Dâd,
a ni mewn gwlad estronol?
[verse 5] Os â Caersalem o'r cof mau,
anghofied dehau gany;
[verse 6] Na throed fy' nhafod, oni bydd,
hi'n ben llawenydd ymy.
[verse 7] Cofia di Dduw, blant Edom lemm,
yn nydd Caersalem howddgar:
Noethwch dynoethwch (meddei rhain)
ci mur a'i main i'r ddaiar.
[verse 8] Bydd gwyn eu byd i'r sawl a wnel
iti, me rch Babel rydost.