Page 121
PSAL. 132. Y ffyddlon yn ymddiried i addewidion Duw. Dafydd yn dymuno ar Dduw sicrhau yr unrhyw.
O Cofia Ddafydd, fy Nuw Ner,
a'i holl wrth flinder hefyd;
[verse 2] Pa lw adduned a roes fo
i Dduw Iaco, gan ddwedyd,
[verse 3] Nid âf o fewn pabell fy' nhy,
a'm gwely mwy nis dringaf;
[verse 4] Ni roddaf i'm dau lygad hun,
amrantun chwaith ni chysgaf:
[verse 5] Nes caffwyf gyfle yn ddi rus,
i Arglwydd grymus Iaco.
[verse 6] Wele'n Ephrata clywson fod
lle o breswylfod iddo.
Cawsom hi ym meusydd y coed.
[verse 7] Pawb doed iw bebyll tirion,
Awn, ymgrymwn, pawb ufyddhaed,
wrth ei faingc draed yn union.
[verse 8] F'arglwydd, cyfod i'th esmwyth lys,
a'th arch o rymmus fowredd.
[verse 9] Gwisged d'offeiriaid gyfion fraint,
gwisged dy Sainct wirionedd.
[verse 10] Er mwyn Dafydd dy ffyddlon wâs,
na thyn dy râs yn llidiog:
Ac na wrthneba di er neb,
mo wyneb dy enneiniog.
[verse 11] I Ddafydd rhoes yr Ion lw gwir,
a chedwir hwn heb wyredd:
O ffrwyth dy gorph rhof ar dy saingc,
yt iraidd gaingc i eistedd.