PSAL. 11. Aml brofedigaethau. Duw yn gwared allan o ho∣nynt, ac yn llywodraethu y da a'r drwg.
CRedaf i'r Arglwydd yn ddi-nam:
paham y dwedwch weithian
Wrth f'enaid, hwnt, a hed i'th fryn,
fel wrth aderyn bychan?
[verse 2] Wele'rannuwiol a'i bwâu,
a'i cawell saethau'n barod,
Am wirioniaid yn llechu'n fain,
i saethu'r rhai'n o gysgod.
[verse 3] Y seifain oll i lygredd aeth:
ond beth a wnaeth y gwirion?
[verse 4] Mae'r Arglwydd yn ei ddinas gref,
fe weryd ef cyfion.
Yr Arglwydd o'i orseddfa fry
at y tlawd try ei olug,
Gweithredoedd holl hiliogaeth dyn,
iw lygaid ydyn amlwg.
[verse 5] Mae'r Arglwydd o'r naturiaeth hon,
prawf gyfion er ymgeledd,
Ond câs yw gan ei enaid fo
ddyn drwg a hoffo wagedd.
[verse 6] Ar bechaduriaid marwor, tân,
a brwmstan a ddaw'n gawod,
A gwynt ty mestlog vchel iawn,
fal dyna lawn wialennod.
[verse 7] Cans cyfion ydyw' Arglwydd ner,
cyflownder mae'n ei garu;
A'i wyneb at yr vnion try,
a hynny iw ymgleddu.