[verse 7] O f'enaid dadymchwel o'r llwch;
dyrd i'th lonyddwch bellach:
Am i'r Arglwydd fod i ti'n dda,
saf i'th orphwysfa hauach.
[verse 8] O herwydd i Dduw wared f'oes,
a'm cadw rhag gloes angau,
Fy' nrhaed rhag llithro i lam ddrwg,
a'm golwg i rhag dagrau.
[verse 9] Yn y ffydd hen o flaen fy Nuw,
ym mysg gwyr byw y rhodiaf.
[verse 10] Fel y credais felly y tystiais,
ar y testyn ymma.
[verse 11] Yn fy ffrwst dwedais i fal hyn,
mae pob dyn yn gelwyddog,
[verse 12] Ond o Dduw, beth a wnaf i ti,
am dy ddaioni cefnog?
[verse 13] Mi a gymmeraf, gan roi mawl,
y phiawl iechyd wriaeth,
Ac a alwaf, er mwyn fy llwydd,
ar enw yr Arglwydd bennaeth.
[verse 14] I'r Arglwydd talaf yn forau,
fy addunedau ffyddlon,
Y pryd hyn o flaen ei holl lu,
y modd y bu'n fy' nghalon.
[verse 15] Marwolaeth ei sainct gwerth fawr yw
yngolwg Duw: 16 O cenfydd,
Dy wâs, dy wâs wyf, mewn dirmyg,
mab dy forwynig ufydd.
[verse 16] Dattodaist fy' rhwyman yn rbydd,
fy offrwm fydd dy foliant,
[verse 17] Enw r Arglwydd nid â o'm co,
i hwnnw bo gogyniant.
[verse 18] I'r Arglwydd bellach tala'n frau
fy addunedau cyfion.