PSAL. 107. Dafydd yn cynghori y rhai a gasglodd ac a waredod Duw i diolch iddo. Yr hwn (gan roi daioni i'r cyfion) sydd yn cau safn yr enwir.
MOlwch yr Arglwydd, cans da yw
moliennwch Dduw ein llywydd,
O blegid ei drugaredd fry
a bery yn dragywydd.
[verse 2] Y gwaredigion canent fawl,
i Dduw gerdd nodawl gyson:
Y fawl a'achubwyd, caned hyn,
o law y gelyn creulon.
[verse 3] A gasglodd o bedwar-rhan byd,
dowch chwi i gyd-ganenau.
O dir y dwyrain dowch mewn hedd,
gorllewin, gogledd, deau.
[verse 4] Drwy yr anialwch, wyrdraws hynt,
y buasent gynt yn crwydro
Allan o'r ffordd: heb dref na llan,
lle caent hwy fan i drigo.
[verse 5] Drwy newyn, syched bu'rdaith hon,
a'i calon ar lewygu:
[verse 6] Ar Dduw y galwent y pryd hyn,
pan oeddyn ymron trengu.