Page [unnumbered]
Te Deum.
TYdi (o Dvuw) a folwn ni,
addefwn di yn Arglwydd,
Y ddaiar oll (dragwyddol Dâd)
gwna yt addoliad hylwydd.
Arnat ti holl Angylion nef
a ront eu llef heb dewi,
Y nefoedd hefyd o ddiar hyn,
a'r nerthoedd sy'n y rheini,
Cherub, a Seraphin, a fydd
yn llefain beunydd attat,
Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Saboth glân,
fal hyn y galwan arnat.
Nefoedd, a daiar sydd yn llawn
o'th wirddawn, a'th ogoniant.
Yr Apostolion, hyfryd gor,
a ron yt' ragor foliant.
Moliannus rif y Prophwydi
sy i'th foli o'r dechreuad,
A'r Merthyron ardderchog lu,
sydd i'th foliannu'n wastad.
Dy Eglwys wîr Gatholig lân,
(hon sydd ar dân drwy'r hollfyd)
O Arglwydd, a'th addola di,
yn un ac yn dri hefyd.