Yr ymarfer o dduvvioldeb: yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.

About this Item

Title
Yr ymarfer o dduvvioldeb: yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Author
Bayly, Lewis, d. 1631.
Publication
Printiedig yn Llundain :: gan Tho. Dawks,
1675.
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Piety
Christian life -- Anglican authors
Puritans
Link to this Item
http://name.umdl.umich.edu/A76257.0001.001
Cite this Item
"Yr ymarfer o dduvvioldeb: yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A76257.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed June 10, 2024.

Pages

Diolch iw adrodd gan vn a êl yn iach o glefyd.

ORasusol a thrugarog Dâd, yr hwn wyt Ar∣glwydd yr iechyd, a'r clefyd, y bywyd a'r far∣wolaeth; ar hwn wyt yn lladd, ac yn bywhau, yr hwn wyt yn dwyn i wared ir bedd ac yn dwyn i fynu; yr hwn wyt vnig ymddiffynnwr pawb a ymddiriedo ynot: fyfi dy wás tlawd ac anheilwng, yr awrhon (trwy brofiad o'm clefyd poenus) wedi teimlo trymder y trueni dyledus i bechod, a gweled mawr∣edd dy drugaredd yn rhoi maddeuant i bechadu∣riaid: a chan ystyried a pha ryw dadol dosturi y gwrandewaist fyngweddiau, ac yr adferaist fi i'm hicchyd am neith drachefn: ydwyf yma o eigiawn calon ostyngedig yn dychwelyd (gyd ar gwahan∣glwyfus diolchgar) i gydnabod, mai tydi yn vnig ydyw Duw sy iechyd, am cadwedigaeth: ac i roi i

Page 348

ti foliant a gogoniant am fy nerth am ymwared oddiwrth y clefyd ar gofid trwm hwnnw: ac am droi fel hyn fyngalar yn llawenydd, fynglefyd yn iechyd, am marwolaeth yn fywyd. Yr oedd fy mhechodau yn haeddu cospedigaeth, a thydi am ceryddaist, ac ni roddaist ti mo honof fi i fynu i angau: my fi oe∣ddwn yn disgwyl o ddydd hyd nôs, pa bryd y gwneit ben am danaf: Yr oeddwn megis garan neu wennol yn trydar: griddfenais megis clommen pan oedd chwerwder y clefyd im gorthrymmu: fy llygaid a dderchefais ir vchelder attat ti o Arglwydd, a thi am diddanaist: canys ti a deflaist fy holl bechodau or tu ol i'th cefn, ac a waredaist fy enaid o bwll lly∣gredigaeth: a phan oeddwn heb gynnorthwy ynof fy hun, nac mewn vn creadur ar all, (yn dywedyd di∣fawyd fi o weddill fy mhlynyddoedd; ni chanfyddaf ddyn mwyach ymysg trigolion y byd) yno yr adferaist fi i iechyd drachefn, ac a roddaist fywyd i mi: O Arglwydd mi a'th gefais di yn barod im gwaredu.

Ac yr awrhon Arglwydd, yr wyf yn cyfaddef nad allai dalu mor cyfryw fesur o ddiolch am y dawn hwn ac a haeddit ar fy llaw. A chan weled nad allaf fi byth dalu i ti drachefn dy ddaioni â gweithredoedd cymmeradwy, Oh na allwn i gyd â Mair Fagdelen dystiolaethu cariad a diolchgarwch fynghalon ag aml ddagrau! Oh pa beth a allaf fi roi i ti o Arglwydd am yr holl bethau da hyn a roddaist im henaid! Yn sicor megis yn fynghlefyd, pryd nad oedd gennif fi ddim arall i roi i ti, yr offrymais Grist a'i haeddedigaethau i ti, megis yn bridwerth dros fy mhechodáu: felly yr awrhon wedi fy adferu trwy dy râd i'm hiechyd am nerth, ac heb fod gennif ddim gwell iw roddi; wele o Ar∣glwydd yr wyf yn fy offrymmu fy hun i fynu i ti,* 1.1 gan attolygu i ti felly fynghynnorthwyo a'th lân

Page 349

Ypryd, megis y byddo hynny sydd yn ol om he∣nioes wedi ei dreilo yn ollawl yn gosod allan dy fo∣liant a'th ogoniant. O Arglwydd maddau fy yn∣fydrwydd am hanniolchgarwch gynt; am na bum yn fwy gofalus i'th caru di yn ol dy ddaioni, nac i'th wasanaethu di yn ol dy ewyllys, nac i vfyddhau i ti yn ol dy orchymynnion, nac i ddiolch i ti am dy roddion. A chan weled dy fod ti yn gwybod nad allaf o honof fy hun, gymmaint a meddylio vn me∣ddwl da, llai o lawer gwneuthur y peth sydd dda a chymmeradwy yn dy olwg di: cynnorthwya fi a'th râd ac a'th lân Yspryd, fel y gallwyf yn fy hawdd∣fyd dreilio fy iechyd mor grefyddol yn dy wasa∣naeth, megis yr oeddwn yn fynghlefyd yn daer∣llyd i ymbil am dano ar dy ddwylaw di. Ac na âd i mi fyth anghofio, nath drugaredd hyn yn fy rhoi yn fy iechyd drachefn, na'r addunedau a'r addewidion hynny, y rhai a wneuthum â thydi yn fynglefyd. Gyd a'm iechyd newydd, adnewydda ynof fi O Arglwydd yspryd vnion: yr hwn am rhyddhâo i oddiwrth gaethiwed pechod, ac a ffurfio fynghalon yngwasanaeth dy râd. Gweithreda ynof fwy casineb a glanastra i'r holl bechodau, y rhai oeddynt achosion o'th lid ti, ac o'm clefyd innau: A chwanega fy ffydd yng-Ghrist Jesu, yr hwn yw 'r Awdur o'm hiechyd, ac o'm cadwedigaeth. Gad i'th lân Yspryd fy nhywys am cynnal i yn y ffordd y dylwn i rodio: a dysc i mi wadu pob annuwioldeb a chwantau bydol, i fyw yn gy∣fiawn, yn sobr, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awrhon: Fel y gallo eraill wrth gymmeryd siampl oddiwrthif, dybio yn well o'th wirionedd di. A chan nad yw 'r amser (sydd i mi etto i fyw) ond yspaid byrr, ac ychydig rif o ddyddiau, yr rhai ni eill hir barhâu: Dysc i mi o fy Nuw felly gyfrif fy nyddiau fel y dygwyf fynghalon i ddo∣ethineb ysprydol,* 1.2 yr hwn sydd yn

Page 350

arwain i iechydwriaeth. Ac er mwyn hyn gwna fi yn fryttach, ac yn fwy tanbaid yn fy nghrefydd: yn fwy crefyddol yn fynweddi: yn wresoccach yn yr yspryd; yn fwy gofalus i wrando, ac i gael budd oddiwrth bregethiad dy Efengyl: yn fwy ymwa∣redol i'm brodyr tlodion: yn fwy gwiliadwrys ar fy ffyrdd; yn fwy ffyddlon yn fyngalwedîgaeth: ac ym mhob ffordd yn amlhau ym mhob gweithred dda. Bydded i mi yn amser helaethrwydd hyfryd ofni y dydd drwg o gerydd, yn amser iechyd feddwl am glefyd, yn amser clefyd fyngwneuthur fy hun yn barod i farwolaeth: a phan fyddo marwolaeth yn neshau, fy mharatoî fy hun i'r farn. Bydded fy holl fywyd yn ddiolchgarwch cyhoeddus i ti, am dy râd a'th drugaredd. Ac am hynny O Arglwydd, yr wyf yma o wir ddyfnder fynghalon, ynghyd â mil Miliwn o Angelion, y pedwar anifail, ar pedwar henuriaid ar hugain, ar holl greaduriaid yn y nêf ar ddaiar yn cydnabod fod yn deilwng i ti o Dâd, yr hwn sydd yn eistodd ar yr orseddfaingc, ac i'r oen dy Fab, yr hwn sydd yn eistedd ar dy ddeheulaw, ac i'r Yspryd glân, yr hwn sydd yn deilliaw oddiwrth y ddau, Trindod lân o bersonau mewn vndeb syl∣wedd, holl foliant, anrhydedd, go∣goniant,* 1.3 a gallu, o'r pryd hyn, yn dra∣gywydd. Amen.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.