awrhon yn wely Crist. Canys Crist (gan roddi ei gorph sanctaidd dridiau a theirnos i orwedd yn y bedd) ai sancteiddiodd, ac (megis) a'i twymnodd ef i gyrph ei Saint, i orphywys, a huno ynddo, hyd foreuddydd yr Adcyfodiad: felly yr awrhon nid yw marwolaeth i'r ffyddlonniaid, ond hûn esm∣wyth, a'r bedd ond gwely Crist, lle y mae eu cyrph yn gorphywys ac yn cyscu mewn tangneddyf: hyd oni lewyrcho hyfryd foreuddydd yr Adcyfodiad iddynt, Esay. 20.26.
Cofia wrth weled dy wely.
Ut somnus mortis, sic lectus imago sepulchri.
sef:
Bydded cŵsc sydd gyssur maeth
Yu ail marwolaeth cennyd:
A'r gwely gwêl yn ail i'r bedd
Lle rhaid i't orwedd hefyd.
Bydded gan hynny dillad dy wely yn arwyddoc∣cau i ti bridd y ddaiar, yr hwn a'th oruwchguddia: a'th cynfasau dy amdo: dy gwsc dy farwolaeth: dy ddeffroad dy adgyfodiad. A phan orweddych yn dy wely a deall o honot fod cyscu yn nesâu: Dywaid, mewn heddwch y gorweddaf ac i'r hunaf, canys ti Arglwydd yn unig am cyfleaist mewn diogelwch. Psal. 4.8. Fal hyn gan agoryd dy galon bob borau yn grefyddol, a'i chau drachefn bob nos â gair Duw ac â gweddi, megis â chlô ag agoriad: Ac felly gan ddechrau y dydd ag addoliant Duw, a myned rha∣got yn ei ofn, a'i ddiweddu yn ei ffafr, di a fyddi sicr o gael bendith Dduw ar dy holl orchwylion, a'th am∣cannion y dydd hwnnw: a'r noson, ti a elli dy sicrhau dy hûn, y cei gyscu yn ddiogel, ac yn hy∣fryd ym mreichiau rhagluniaeth dy Dâd nefol.
Hyd yn hyn am y Duwioldob, yr hwn a ddylai