Newyddion mawr oddiwrth y ser. Neu almanacc am y flwyddyn o oedran [brace] Y byd, 5647. Crist, 1698.: Yn cynwŷs pôb pêth ar a berthyno i almanacc, at yr hwn a chwanegwŷd ffeiriau Cymru, a rheini o ffeiriau Lloeger ar fŷdd yn agos i Gymru: a charol; a dyriau newŷddion. / Y pedwaredd-ar-bymtheg o wneuthuriad Tho. Jones.

About this Item

Title
Newyddion mawr oddiwrth y ser. Neu almanacc am y flwyddyn o oedran [brace] Y byd, 5647. Crist, 1698.: Yn cynwŷs pôb pêth ar a berthyno i almanacc, at yr hwn a chwanegwŷd ffeiriau Cymru, a rheini o ffeiriau Lloeger ar fŷdd yn agos i Gymru: a charol; a dyriau newŷddion. / Y pedwaredd-ar-bymtheg o wneuthuriad Tho. Jones.
Author
Jones, Thomas, 1648-1713.
Publication
[Shrewsbury :: by Thomas Jones,
1698]
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further further information or permissions.

Subject terms
Almanacs, Welsh.
Astrology
Ephemerides.
Cite this Item
"Newyddion mawr oddiwrth y ser. Neu almanacc am y flwyddyn o oedran [brace] Y byd, 5647. Crist, 1698.: Yn cynwŷs pôb pêth ar a berthyno i almanacc, at yr hwn a chwanegwŷd ffeiriau Cymru, a rheini o ffeiriau Lloeger ar fŷdd yn agos i Gymru: a charol; a dyriau newŷddion. / Y pedwaredd-ar-bymtheg o wneuthuriad Tho. Jones." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A75121.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed April 30, 2024.

Pages

Yr amser cyfleus i gweirio, ac i ollwng gwaed fel a canlŷn.

Os cweirir anifeiliaid pan fo'r arwŷdd yn yr arphed, y Galon neu'r Cefen, neu yn y Cluniau; diameu a bŷdd rhai o honŷnt feirw; ond pan fo'r Arwŷdd mewn rhŷw fan arall, bŷdd Cyfleus i gweirio neu dori ar anifail.

Page [unnumbered]

Peryglus ŷw gollwng gwaed ar ddŷn, neu anifail (yn enwedig ar ddŷn) pan fo'r Arwŷdd yn yr aulod neu'r man a Gollynger gwaed o hono; o herwŷdd fôd yr arwŷdd yn Cŷdlifo sûg a lleithder y Corph i'r aelod neu'r man a bô ynddo, ac yn peryglu pydru r man a dorrer, neu a friwer pan fo'r arwŷdd ynddo.

5. Y bumed golofn sŷ'n dangos oed y Lleuad bôb dŷdd; Gyferbŷn a'r dŷdd a fynnoch o Fîs, Cewch (yn y bumed golofn) pesawl dŷdd oed a fo'r Lleuad y dŷdd hwnnw.

6. Y chweched Golofn sŷ'n dangos yr Awr a'r Munŷd a Codo yr Haul bôb dŷdd trwŷ'r Flwŷddŷn; gyferbŷn a'r dŷdd a fynnoch cewch yr awr tan A. a'r munŷd tan M. megis a gwelwch (yn y chweched golofn honno) gyferbŷn ar 22 dŷdd o Jonawr 7 tan A, a 30 tan M. yn dangos i chwi fôd yr Haul yn Codi 30. munŷd (neu hanner awr) wedi saith y 22. dŷdd o Jonawr.

7. Y seithfed Golofn sŷ 'n dangos machludiad yr Haul beunŷdd: ac yn yr un drefn a chodiad yr Haul cewch yr awr tan A. a'r munŷd tan M. gyferbŷn a'r dŷdd a fynnoch.

Oed y Lleuad bôb mîs a gewch ar ben ucha'r dal∣ennau; a hynnŷ mo'r eglur a hawdd ei ddeall na bo raid mo'i ddatguddio yn eglurach i chwi. Ond am y munŷd a bo'r newid neu'r Llawn-lloned, neu chwarterau'r Lleuad; i roedd y llê yn rhŷ brin iw roddi ar lawr; Ac heblaw hynnŷ afreidiol i chwi gael y munŷd; Ond y dŷdd, a'r awr nesaf at y munŷd (pa un bynnag ai o'i ôl, ai o'i flaen) a gewch yn gywir bôb amfer.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.