Newyddion mawr oddiwrth y ser. Neu almanacc am y flwyddyn o oedran [brace] Y byd, 5647. Crist, 1698.: Yn cynwŷs pôb pêth ar a berthyno i almanacc, at yr hwn a chwanegwŷd ffeiriau Cymru, a rheini o ffeiriau Lloeger ar fŷdd yn agos i Gymru: a charol; a dyriau newŷddion. / Y pedwaredd-ar-bymtheg o wneuthuriad Tho. Jones.

About this Item

Title
Newyddion mawr oddiwrth y ser. Neu almanacc am y flwyddyn o oedran [brace] Y byd, 5647. Crist, 1698.: Yn cynwŷs pôb pêth ar a berthyno i almanacc, at yr hwn a chwanegwŷd ffeiriau Cymru, a rheini o ffeiriau Lloeger ar fŷdd yn agos i Gymru: a charol; a dyriau newŷddion. / Y pedwaredd-ar-bymtheg o wneuthuriad Tho. Jones.
Author
Jones, Thomas, 1648-1713.
Publication
[Shrewsbury :: by Thomas Jones,
1698]
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further further information or permissions.

Subject terms
Almanacs, Welsh.
Astrology
Ephemerides.
Cite this Item
"Newyddion mawr oddiwrth y ser. Neu almanacc am y flwyddyn o oedran [brace] Y byd, 5647. Crist, 1698.: Yn cynwŷs pôb pêth ar a berthyno i almanacc, at yr hwn a chwanegwŷd ffeiriau Cymru, a rheini o ffeiriau Lloeger ar fŷdd yn agos i Gymru: a charol; a dyriau newŷddion. / Y pedwaredd-ar-bymtheg o wneuthuriad Tho. Jones." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A75121.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 14, 2024.

Pages

Page [unnumbered]

Y Rhyfeddodau, a'r Troiadau a ddigwŷddasant yn y Bŷd Rhng yr amser yr Yscrifennais yr Almanacc am y Flwŷddŷn 1697, a'r amser yr yscrifennais yr Almanac hwn.

Y dŷdd o'r mîs sŷdd wrth ddechreu y chwedlau.

MAI. 1696.

7. Bŷ Farw y Frenhines weddw o Spaŷn, yn spaŷn. 18. Mêllt a nynnodd dân yn y Ddinas fawr a elwir Novograd, yngwlâd Muscovy; Ac a Losgodd o dai ynddi ynghŷlch 19000. Ac a laddodd o bobl ynghŷlch 1700. Ac efrŷdd o ddodren a golud a losgodd hefŷdd.

22. Digwŷddodd Tân wrth Rissiau Wapin yn Llundain, yr hwn a losgodd o Dai 41. Ac un Llong.

23. Mêllten a dorodd y Ceiliog gwŷnt ar Glochdŷ Newport, yn Sîr y Mwŷthig; ac a nynnodd Dân yn y to plwm oedd ar yr Eglwŷs. A pha mwŷa a fwrieu'r bobl o ddŵr iw ddiffodd, mwŷa a nynneu'r tân; Ac yn y diwedd (drwŷ gyngor rhŷwun) Tywallted llaeth i ddiffodd y tân: a hynnŷ a'i diffoddodd yn fŷan.

30. Bŷ farw Arglwŷdd Capel, Debuty y Werddon. Y Cornwŷd oedd yn wŷllt yng-wlâd yr Aipht, or hwn a bu farw mewn un dŷdd, yn Ninas Grancaero ynghŷlch 3000, o bobl, ac yn Ninas Alexandria ynghŷlch 100, yn y dŷdd.

MEHEFIN. 1696.

2. Brenin Ffraingc a gynygiodd heddwch i'r Dûc o Savoy.

7. Bŷ farw Brenin Poland, arol hanner blwŷdd{y}n o afiechŷd.

19. Bŷ Daiar Crŷn yn Waymouth, a thros lawer o Filltyroedd yng-orllewŷn Lloeger, ac a fwriodd i lawr Ddasau o fawn, a rhai Tai.

GORPHENNAF. 1696.

1. Brenin ffraingc ar Dûc o Savôy a Gytunasant i roddi eu harfau i lawr dros 30. o ddyddiau.

Llongau Lloeger a diriasant filwŷr mewn 4 neu 5 o

Page [unnumbered]

ynŷsoedd yn ffraingc, ac a losgasant ynghŷlch 20. o Bentrefŷdd, yn cynwŷs ynddŷnt ynghŷlch 15 Cant o Dai, a llawer o ŷd a Gwair: Ac a laddasant, ac a gym∣erasant 1600. o enifeiliaid; Ac yn fŷan ar ol hynnŷ llosgasant hefŷd Ddinas Saint Martŷn yn ffraingc.

Brenin ffraingc y drydedd waith a gynygiodd heddwch i'r Aliwns.

AWST. 1696.

Cododd cynwrf mewn trêf a elwir ffrŵm, yngorllewŷn Lloeger, rhwng y Cigyddion a'r milwŷr, ynghŷlch gwrthod yr hên Arian; Ac yn yr ymrafael lladdwŷd un Canwriad, ac ynghŷlch 60. o wŷr eraill.

Bŷ ymladdfa Rhwng yr Emprwr o Germani, a'r Tyrkied, yn agos i Ddinas Tameswâr: yn yr ymladdfa hon lladdwŷd o'r Tyrkiaid ynghŷlch naw mil, ac o'r Germŷn ynghŷlch pum mil; A'r Tyrkiaid a Gollasant y maes

31. Cyhoeddwŷd heddwch yn ffraingc, rhwng Brenin ffraingc ar Duc o Savoy.

MEDI, 1696.

Digwŷddodd Tân yn Wolverhamton, yn Sir y Mwŷthig, ac a Losgodd ynghŷlch 100. o Dai: y Tân a fagodd mewn dâs o Glover a wneuthbwŷd i fynu yn rhŷ wlŷb.

Morfarch o ddau-naw llâth o hŷd, a ddaeth i'r lan yn Scotland.

Brenin Spain a syrthiodd yn Glâf o'r Crud; a thrwŷ gymerŷd y Jesuits Powder, cadd ymwared a'i ddolur dros amser.

Gwŷr ffraingc, a'u llongau Rhyfel, a gymerasant 33. o longau Lloeger, wrth Newfound-land yn y West-indias, Ac a losgasant lawer o drefŷdd yno a berthyneu i Loeger.

HYDREF, 1696.

Brenin spaŷn a syrthiodd yn glâf drachefen.

TACHWEDD, 1696.

4. Parliament Lloeger a ddymunasant ar y Brenin, yspysu iddŷnt pa faint o Arian a wasanaetheu i Ganlŷn y Rhyfel dros un Flwŷddŷn ymhellach yn erbŷn ffraingc. A'r Brenin a yspysodd iddŷnt pa Gost a fuaseu iddo y Flwŷddŷn o'r blaen; Ac a ddywedodd wrthŷnt, mae'r

Page [unnumbered]

un faint o Arian a wasanaetheu iddo y Flwŷddŷn oed yn dyfod; A hynnŷ fel a canlŷn.

i Gadw 40000. o Forwŷr dros 13. o Fisoedd, (ynol 4 l. a 5 s. y mis i bob un) 2210000. o bunodd.

i ordinary y Navy 85740. o bunoedd.

i swŷddogion y ddwŷ-fil o filwŷr ar y môr. 16972. o bunau.

Am gadw cyfri o'r morwŷr, a'u perthŷnaseu 59485. o bunnau.

i dalu i 87440. o Filwŷr Tir, yn wŷr meirch, a gwŷr traed, drwŷ gyfri'r swŷddogion a'r cyfan sŷdd dan daledigaeth y Brenin yn Lloeger, a thros y môr. 2007882 o bunnau.

i dalu am amrŷw o bethau eraill a ddigwŷddo wrth ganlŷn y Rhyfel. 500000. o bunnau.

Y Milwŷr sŷdd dan daledigaeth y Brenin ar fôr a thîr ydŷnt 127440, o wŷr.

Yr Arian (a ddywedodd y Brenin) a wasanaetheu i ganlŷn y Rhyfel dros un Flwŷddŷn ŷw 4880079. o Bunnoedd.

Y Parliament arol i'r Brenin yspysu iddŷnt pa faint o Arian a wasanaetheu, A ymroesant, ac a addawsant roddi i'r Brenin i ganlŷn y Rhyfel yn erbŷn ffraingc dros y Flwŷddŷn 1697. o Bunnau 4880079.

Brenin spaŷn a glafychodd y drydedd waith.

Llong a 82. o bobl ynddi (yn myned o Loeger i'r Werddon) a suddodd wrth Ddulŷn, a boddodd yr holl bobl onid 2.

RHAGFYR, 1696.

6. Bŷ farw Arglwŷdd Canghellwr y Werddon, Sr. James Porter.

27. Digwŷddodd Temhestl fawr, o Fêllt a thyranau, a Gwŷnt, a Gwlaw, yn cyrrudd o orllewŷn Lloeger i eithaf spaŷn: y mêllt a doddasant rai o'r Gynnau Canans yn y drêf a elwir Pendenis yngorllewŷn Lloeger; A'r Gwŷnt a ddinistrodd ac a suddodd lawer o Longau 'rhŷd ochor ffraingc; Ac a fwriodd i lawr lawer o Adeiladaeth Cryfion yn spaŷn.

Page [unnumbered]

JONAWR, 1697.

15. Yr Afon Jarroline yn Scotland a sychodd yn hesp, dros badair Awr.

21. Cododd llu o Wehyddion sidan yn Llundain, ynghŷlch Dêg-mîl o rifedi, a'u gwragedd▪ Ac a aethant yn unol at y Parliament, i ddymuno arnŷnt wneuthur Gweithred o gyfraith yn erbŷn y Marsiandwŷr oedd yn dyfod a sidanau wedi eu gweu i'r Deŷrnas hon: ac yn erbŷn dyfod a Chalico brîth i'r Deŷrnas, yr hŷn oedd yn anrheithio Crefft y Gwehyddion hŷnnŷ: Ar Parliament a wnaethont eu dymuniad hwŷnt.

22. Arian Lloeger a wastadlwŷd yn Scotland wrth bwŷsau: yr hên Arian am 5s. a 4d. yr Owns. Ar Arian newŷdd am 5s. a 5d. yr Owns.

24 Cododd Temhestl o Wŷnt Rhyfeddol ynghŷlch Llundain, ac a daflodd Rai o'r Llongau o'r afon i'r lan.

30. Digwŷddodd Temhestl fawr o Wŷnt a Gwlaw, a Mellt a Thyranau yn Rhufain; yr hŷn a daflodd i lawr lawer o Adeiladaeth, ac a ddadwreiddiodd 600, o Goed, gan eu taflu 30. o lathennau o'u llê.

CHWEFROR, 1697.

O Ganol y mîs diweddaf, i ganol hwn, bŷ farw o bobl (yn Livonia yngwlâd Poland) 18000. drwŷ newŷn ac eisieu.

Gwŷr ffraingc a Gymerasant ar y môr 28 o Longau Lloeger, a 19 o Longau Holand, y rhain oedd yn myned o'r Werddon i fflanders ag ymborth i'r mîlwŷr.

MAWRTH, 1697.

Llongau Spaŷn a ddaethant adref, a Mŵn Arian ynddŷnt werth 2000000 o Bunnoedd,

Y Gwehyddion a godasant drachefen yn Llundain, ac a osodasant ar rai o wŷr y Parliament, ac ar eu tai, Ar Parliament a ddymunasant ar y Brenin eu gostegu, ac fellu a gwnaeth ef, drwŷ yru y mîlwŷr a'r Traŷn band yn eu herbŷn; Rhai o honŷnt a ladded, a rhai a friwed, a llawer a ddalied ac a yrwŷd ir môr i ymladd yn erbŷn ffraingc.

Pump o Longau marsiandwŷr Lloeger, ac wŷth o Longau marsiandwŷr Holand, (a thair o Longau Rhyfel gyda hwŷnt)

Page [unnumbered]

wrth ddyfod adref yn llwŷthog, o Bilbo yn Spaŷn, Cyfarfodasant a 9 o Longau Rhyfel ffraingc; y naw hynnŷ a'u cymmerasant oll, ac a'u dygasant i ffraingc.

Bŷ farw Arglwŷdd Berkley, Admiral neu benswŷddog y môr dan y Brenin Wiliam.

Brenhines Poland a syrthiodd yn glâf.

EBRILL, 1697.

Pedair o Longau Rhyfel Lloeger, a gymmerasant, ac a suddasant ynghŷlch 40. o Longau ffraingc, y rhain oeddŷnt yn llwŷthog o ŷd a Halen, yn myned adref i ffraingc.

Tarddodd tân yn Westminster yn Llundain: yr hwn a losgodd 22. o dai, Ac a golledodd y bobl wŷth mil o bunnau.

11. Bŷ Temestl anferth o Fêllt a Thyranau, a gwlaw, yn Luxenburgh, yn Germany; trwŷ yr hŷn a boddodd 50. o Filwŷr, a 2000 o Ddefaid, o fewn 2 filltir i Laroche; A thaflodd i lawr amrŷw o Gestill, ac Eglwŷsŷdd a thai.

15. Bŷ farw Brenin Swedland, Charles yr XI. yr hwn a aned Rhagfŷr 4, 1655. A Goronwŷd 1660. Ac a adawodd y goron iw unig Fâb Charles, yr hwn a anwŷd y 27. o Fehefin 1682.

Y bobl gyffredin yn Livonia yngwlâd Poland, (o achos newŷn ac eisieu) a godasant; ac a yrasant i ffoi 3000. o wŷr a yresid iw gostegu.

Brenin spaŷn a glafychodd drachefen.

MAI, 1697.

4. Daeth y newŷdd fod y newŷn yn chwanegu yn Livonia, ac yn Finland yn Swedland; Ac na welodd y neb a dramwŷodd y wlâd honno, mewn 40. o Filltyroedd neb yn fŷw, ond mewn un pentref un gŵr a'i blant yn ymborthi ar furgŷn, A phlentŷn bâch yn cnoi bron ei fam farw.

5, Pedair o Longau Rhyfel ffraingc, a osodasant ar lawer o Longau marsiandaeth Lloeger, (y rhain oedd yn myned o Loeger i Barbados) ac a gymerasant 14, o honŷnt ac a'u dygasant i ffraingc, ac a ddinistriasant amrŷw eraill o honŷnt, ac a Laddasant o wŷr Lloeger 150, ac a friwasant lawer mwŷ.

5. Gwŷr ffraingc a amgŷlchasant drêf gadarn yn fflanders a elwid Aeth, ac a'i cymmerasant mewn 3 wŷthnos o amser.

Page [unnumbered]

6. Gwŷr ffraingc a gynŷgiasant roddi yr arfau i lawr, a'u gwrthwŷnebwŷr a nagcausant gydtuno i hynnŷ.

Brenhines Spaŷn a galfychodd drachefen o'r crŷd.

Clafychodd ein Brenin Wiliam ar ôl iddio dirio yn Holand, ac a wellhadd yn fŷan drwŷ ollwng gwaed.

10. Digwŷddodd Tân mewn trêf a elwir Segedin, yn Germany, (drwŷ ddiofalwch y mîl-wŷr yn Cymerŷd Tabacco) ac a Losgodd mewn tair awr y Castell a llawer o dai, a naw mîl sachaid o ŷd a blawd, a llawer o wair, a chyfreidiau eraill i'r mîlwŷr a'u meirch.

17. Digwŷddodd Tân yn Stockholm, ac a Losgodd Lŷs Brenin Swedland, a llawer o'r Ddinas hefŷd.

25. Ennynnodd tân drachefen yn Stockholm mewn 3 o fannau ar unwaith, ac a losgodd y Ddinas agos i gŷd, a daliwŷd amrŷw o ddieithred yn y Ddinas, ymhylîth y rheini i roedd amrŷw o wŷr ffraingc, Ac i'r oeddid yn credu mae hwŷnt a wnaetheu y direidi.

26. Y Frenhines weddw o Spaŷn, a syrthiodd yn glâf.

28. Daeth y newŷdd drachefen fod y newŷn yn chwanegu n ffinland a Livonia, a bod farw o hono Gan-mîl o obl.

MEHEFIN, 1697.

Yr ail dŷdd. 33000. o wŷr ffraingc a amgylchasant Ddinas Barcelona yn Spaŷn, arfeder ei chymmerŷd wrth nerth eu harfau.

Gwnaed y Duc o Luxenburgh yn Frenin Poland.

Rhai o Longau Lloeger a gyfarfodasant a llongau ffraingc ymhell oddiwrth dir, ac a ymladdasant; y Saeson a gymerasant 5, ac a suddasant 2 o Longau ffraingc; ac a wnaethant i'r lleill oll ddiangŷd.

Daeth y newŷdd i Loeger ddarfod i wŷr ffraingc ymadel a New-found-land, yr hon a gymerasent oddiar y Saeson yn y Westindia yn mîs Medi 1696.

O Ganol mîs Ebrill i ganol y mîs ymma, bu llawer o Demhestlau mawr (mewn amrŷw o fannau yn Lloeger a Chymru) o Eêllt a thyrannau, a Gwlaw a chenllŷsg anferth o faint; Rhai o'r Cenllŷsg oedd naw neu ddeg o fodfeddau o amgŷlch; yn lladd defaid a gwŷddau, ac yn dinistrio'r ydau.

Page [unnumbered]

Ni bu odid o wŷthnos yn y Flwŷddŷn nad oedd Gwŷr Lloeger yn colli rhai llongau, ac yn Cymmerŷd rhai eraill oddiar wŷr ffraingc, feswl un neu ddwŷ neu dair ar unwaith; ped faswn yn ysgrifennu y cwbl ymma, buaseu yn llenwi y llyfr hwn i gŷd.

Y Newŷddion hŷn, a llawer mwŷ a gyhoeddwŷd 'rhŷd Lloeger yn Brintiedig bob wŷthnos yn eu cwrs, fel a digwŷddasant.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.