Newyddion mawr oddiwrth y ser. Neu almanacc am y flwyddyn o oedran [brace] Y byd, 5647. Crist, 1698.: Yn cynwŷs pôb pêth ar a berthyno i almanacc, at yr hwn a chwanegwŷd ffeiriau Cymru, a rheini o ffeiriau Lloeger ar fŷdd yn agos i Gymru: a charol; a dyriau newŷddion. / Y pedwaredd-ar-bymtheg o wneuthuriad Tho. Jones.

About this Item

Title
Newyddion mawr oddiwrth y ser. Neu almanacc am y flwyddyn o oedran [brace] Y byd, 5647. Crist, 1698.: Yn cynwŷs pôb pêth ar a berthyno i almanacc, at yr hwn a chwanegwŷd ffeiriau Cymru, a rheini o ffeiriau Lloeger ar fŷdd yn agos i Gymru: a charol; a dyriau newŷddion. / Y pedwaredd-ar-bymtheg o wneuthuriad Tho. Jones.
Author
Jones, Thomas, 1648-1713.
Publication
[Shrewsbury :: by Thomas Jones,
1698]
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further further information or permissions.

Subject terms
Almanacs, Welsh.
Astrology
Ephemerides.
Cite this Item
"Newyddion mawr oddiwrth y ser. Neu almanacc am y flwyddyn o oedran [brace] Y byd, 5647. Crist, 1698.: Yn cynwŷs pôb pêth ar a berthyno i almanacc, at yr hwn a chwanegwŷd ffeiriau Cymru, a rheini o ffeiriau Lloeger ar fŷdd yn agos i Gymru: a charol; a dyriau newŷddion. / Y pedwaredd-ar-bymtheg o wneuthuriad Tho. Jones." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A75121.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed April 30, 2024.

Pages

Carol Duwiol, o Ystŷr ar Einioes Dŷn.

1.
O Fuchedd dŷn bychan o'm mebŷd yn faban▪ Cyfflybwn fy oedran yn beder rhan rhi, I'r Flwŷddŷn fer fyroes, pôb tri mis yn un-oes, Yn beder oes einioes iw henwi.
2.
I'w henwi mi ranna i gyfri yr oes gynta, Y gwanwŷn oedd wana, a hwŷa yn parhau: Yn sâl fy nechreuad ar deall heb ddywad, Na siarad trwŷ gariad mo'r geiriau.
3.
Fy ngeiriau oedd fyrion, a doeth-wych nid aethon, Yn wan fy amcanion o foddion difudd, Cael moethe i'm maethu, dda ddigon im magu, A'm dysgu i'm gyru tan gerŷdd.
4.
Drwŷ gariad roedd gerŷdd dan ofon Duw'n ufudd, A minne yn aflonŷdd a'm hawŷdd yn hŷ; Saith oedran cymhedrol cael trwsiad pyrthnasol, A'm danfon i'r ysgol i ddysgu.
5.
'Roedd yno blant finte ar fynwent fel finne, A mwŷ chwant i chware na llyfre mewn llaw: A minne yn gyfanedd yn fawr fy oferedd, Nes dilin o'r dialedd i'm dwŷlaw.

Page [unnumbered]

6.
Bum naw mlynedd union yn dysgu pob tasgion, Nes dirnad gorchmynnion da tirlon Duw tri, Er bod o wŷbodaeth o gyfran ei gyfraeth, Roedd daerach naturiaeth iw tori.
7.
Af weithian i draethu, yr ail oes sŷ'n nesu, Hirddŷdd ha yn harddu, a llawennu wna llangc; Cyfeillach oedd f'wllus i'r Bŷd sŷdd enbŷdus, Trosseddus a nwŷfus yn ifangc.
8.
Yn ifangc llawn afiaeth, brŷd oedd ar brydyddieth, A chan i lân eneth wŷch odieth mewn chwant; Pôb rhi in fwyneiddgu, mynd attŷn o'm deutu: A ffaelu mwŷ trechu mom trachwant.
9.
Pôb Sul yn amharod anufudd i ddyfod, I wrando'r gair Duwdod, mwŷ pechod ŷw'r pêth; Prŷnhoniau yn ol hanner chwaryddfa oedd yr arfer: Y pader ar gosper oedd gasbêth.
10.
Y Drydŷdd oes wedi, rhaid ydoedd priodi, Maith amod daeth i mi iw gyfri dan go: A minne oedd yn myned or gwaetha fy ngweithred; I dori yr addunedd oedd yno.
11.
Cael tir a thretadeth, a gwisgi gynhysgeth, Cynhaia an-howeth ar draffeth iw drin; Mewn gofal a gofud drwŷ boen ar bôb enŷd: I ymeulŷd a golud, a'i galŷn.
12.
Pôb bore er oered, i'r mynŷdd rhaid myned, I'r golwg i weled y Defed a'r da; Troi weithian i weithio bôb un ag oedd yno: A'u hwŷlio i lafurio am fara.
13.
Pêth awŷdd cwmnhieth at arwŷdd naturieth, Balchio wnae'r coweth mewn afieth er nêb; Cael atta o'm deutu fŷd llawn i'm llawenu: A hynnŷ i'm denu i odineb.

Page [unnumbered]

14.
Yrowan daeth Gaia, a henaint a'm huna, I'm dilŷn, a'm dala, yn llwŷra ymhôb lle: Arwŷddion yn genad, ysbysol ddangosiad, I ddirnad diweddiad i'm dyddie.
15.
Fy muchedd sŷ'n pechu, a'm dyddie yn diweddu, Fy oes sŷdd yn nesu i'm barnu heb wâd; Gofyna yn gyfanedd, i Dduw cŷn i'm ddiwedd; Ei buredd drugaredd drwŷ gariad.
16.
Mae'r pen wedi gwnu, ar golwg yn pallu, Ar Clowed yn dylu i'm synnu yn o sŷn; A rhwŷm o hîr amod yn dilŷn pôb aelod: I orfod cyfarfod a therfŷn.
17.
Weithian yn ddiwaetha tro'r wŷneb truana, At Dduw y gorucha Jehova ei hun: A'i gofio mewn gofal, cŷn dyfod y dial; Am dori ei Arch amal orchymmŷn.
18.
I'r ydwŷf yn credu drwŷ wîr edifaru, I'r grasol Dduw Iesu fy-mhrynnu mewn prŷd; A bŷth 'rwi'n obeithiol gael bôd yn gymodol: Dragwŷddol yn fŷwiol i fywŷd.
19.
Dy gariad trugarog, Dduw'r Llowŷdd galluog, Er mwŷn dy Fâb enwog, Eneiniog o'r Nêf; Rhoes ei einioes oen unig, o'i fôdd yn dda feddig, Drwŷ ddirmŷg yn ddiddig i ddioddef.
20.
Bu ddiddig i ddioddeu, heb angen loes angeu. I'm cadw am bechode a'm beie mawr bwŷs; Yn gwhwl mae'ng obeth o'i filen farwolaeth, Gael perffeth bûr odieth Baradwŷs.
21.
Pûr odieth Baradwŷs, drwŷ gymod Duw yn gymwŷs, I'm henaid, a'i gynwŷs iw Eglwŷs lwŷs lân; Dy râs yn gymhwŷsedd, fy Nuw ar fy niwedd, Un agwedd a buchedd dŷn bychan

Page [unnumbered]

22.
Pôb Ceraint am caro, pôb dŷn a'm adwaeno, Pôb cyfaill a'm cofio, pawb ero yn bûr; Dymunwch i minne ar Dduw a'ch gweddie, Gael madde ymhechode bechadur.
23.
Duw dyro drugaredd, a'th gymod diomedd, Am bechod fy muchedd i ddiwedd yn dda; O'm hir-waith i'm harwen, drwŷ wîr ffŷdd i orphen, Yn llawen, Amen a ddymuna.

Evan David, o Lan-gadfan, yn Sîr Drefaldwŷn, a'u Cant, 1697.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.