Page [unnumbered]
Taflen yn dangos yr amser o'r nôs yn gywir, (wrth Lewŷrch y Lleuad ar ddeiol Haul.) trwŷ'r Flwŷddŷn.
Oed y lle∣uad bôb dŷdd o'r naill new∣id i'r llall. | Amser iw chw∣anegu at lew∣ŷrch y lleuad. | ||
A. | M. | ||
1 | 16 | 00 | 00 |
2 | 17 | 00 | 48 |
3 | 18 | 1 | 36 |
4 | 19 | 2 | 24 |
5 | 20 | 3 | 12 |
6 | 21 | 4 | 00 |
7 | 22 | 4 | 48 |
8 | 23 | 5 | 36 |
9 | 24 | 6 | 24 |
10 | 25 | 7 | 12 |
11 | 26 | 8 | 00 |
12 | 27 | 8 | 48 |
13 | 28 | 9 | 36 |
14 | 29 | 10 | 24 |
15 | 30 | 11 | 12 |
PA nôs bynnag a mynnech wŷbod yr amser o'r nôs wrth lewŷrch y lleuad; yn gyntaf edrychwch (pan fo'r lleuad yn llewyrchu) pa lê a bŷdd ei phenŷd ar y Deiol Haul; A phan gaffoch yr awr neu'r amser a ddangoso ei llewŷrch ar y Deiol, Cerriwch hynnŷ yn eich meddwl, neu yscrifenwch êf i lawr. Yn ail edrychwch pesawl dŷdd oed ŷw y lleuad y dŷdd hwnnw o'r mis. Ac yno chwiliwch am yr un dŷdd hwnnw o oed y Lleuad yn y daflen hon; A phan gaffoch hynnŷ yn y golofn gyntaf neu'r ail o'r Daflen hon, Edrychwch bêth sŷdd o oriau a mynud∣iau gyferbŷn a hynnŷ yn y drydŷdd gol∣ofn dan A. M. Yn y daflen hon. A rhodd∣wch yr oriau a'r mynudiau hynnŷ a ga∣ffoch yn y drydedd golofn dan A. M. At yr amser yr oedd llewŷrch y lleuad yn ei ddangos ar y Deiol Haul: A bwriwch i fynu y ddau Rifedi i'r unffordd; ar Cy∣fan ŷw yr amser o'r nôs. Ac os bŷdd y Swm yn uwch na 12 o oriau, bwriwch ymaith 12 o oriau, ar gweddill ŷw yr amser o'r nôs.
Deallwch yn Eglurach wrth yr Esamplau isod.
Os digwŷdd i'r lleuad lewŷrchu ar wŷth or nôs y 7 neu'r 22 dŷdd o Jonawr y leni, ei phelŷdr neu lewŷrch a ddengŷs 4 ar y deiol, edrychwch y dyddiau hynnŷ o Jonawr bêth ŷw oed y Lleuad yn y bumed Golofn ar y ddalen am fis Jonawr, ac yno cewch 6. 21. Ac yno edrychwch am 6 ac 21 yn y ddwŷ golofn gyntaf or daflen hon, a chyferbŷn a hwŷnt yn y drydŷdd golofn, cewch 4 tan A, a 00 tan M. Sef pedair awr union: Gosodwch y pedair awr hynnŷ wrth y pedair awr a ddangosodd penŷd y Lleuad ar y deiol, a hynnŷ a wnant wŷth, Sêf yr amser o'r nôs. Gwŷbyddwch mae 60 o fynudiau fŷ mewn awr bôb amser.