Deallwch yn Eglurach wrth yr Esamplau isod.
Os mynech yr amser o ben llanw'r môr yn Ab••••••augleddŷf yr 21 dŷdd o Ionawr y leni? Edrychwch yn gyntaf pesawl dŷdd oed ŷw y Lleuad y dŷdd hwnnw, yn y tu dalen am Fis Ionawr; Ac yno cewch weled fôd y lleuad yn 20 dŷdd oed. Yn ail edrychwch yn y Daflen hon am yr 20 dŷdd o oed y lleuad, a hynnŷ a gewch yn yr ail golofn: A chyferbŷn ar 20 hwnnw, yn y bedwaredd golofn (dan enw Aberdaugleddŷf) cewch weled 8 tan A, a 32 tan M. Sef wŷth awr, a 32 mŷnud, yn dangos i chwi a bŷdd pen llanw'r môr yn Aber∣daugleddŷf yr 21 dŷdd o Ionawr y leni 32 mŷnud wedi wŷth ar y glôch y boreu. Goreu amser i dramwŷ dros y traeth mawr. Tros draeth y Bewmares, a thros draeth Caerlleon ŷw ar ddistill trai; hynŷ ydŷw o 6 awr i 7 cŷn, neu gwedi pen∣llanw. Goreu amser i dramwŷ rhwng Awst a Beatslay ŷw 2 awr neu 3 cŷn pen llanw pan fô'r gwŷnt or dwŷrain i'r gogledd▪ A 2 awr neu 3 wedi pen llenw pan fôr gwŷnt o'r Gorllewŷn ir deheu. Goreu amser i dramwŷ dros borth Aber-Conwey ŷw Tair awr cŷn neu gwedi pen llanw. Am y porthau eraill igŷd, pen llanw sŷdd oreu iw Tramwy