Page [unnumbered]
ANNOGAƲ.
GAN ddŷall fôd rhai yn ewŷllyssio Cael gwŷbod oed gelynnion Lloeger (mae 'n debŷg drwŷ obeithio fôd rhai o honŷnt Cyn hyned nad allant (wrth gwrs natur) mo'r bŷw yn hîr i'n gorthrymmu) er mwŷn bodloni 'rheini rho∣ddais ymma (ymhylîth ein llywiawdyddion) yr amser a gan∣wŷd hwŷnt, a'u hoed (yn y Flwŷddŷn hon 1694.) mewn dilynol drefn.
Y Diweddar Frenin Jago a anwŷd y 15 dŷdd o fîs Rhagfyr, yn y Flwŷddŷn o oed Jesu 1633, ac i mae êf o oedran y Leni yn 61, o flynyddoedd.
Brenin Ffraingc a anwŷd ar ôl Jago 5, o flynŷddoedd, sef y 26 dŷdd o fîs Awst, yn y Flwŷddŷn o oed Jesu 1638, ac i mae ef o oedran y Leni yn 56, o flynŷddoedd.
Ein grasufaf Frenin Wiliam a anwŷd 12, o flynyddoedd ar ol Brenin Ffraingc, sef y 4 dŷdd o Dachwedd yn y Flwŷddŷn o oed Crîst 1650, a'i oed ef y Leni ŷw 44, o flynŷddoedd. Yr holl alluog Dduw a'i Bendithio a hîr hoedel, ac Jechŷd, a llwŷddiant i Lyfodraethu y Deŷrnas hon, &c.
Y Dauphyn, neu Fâb hynnŷ Brenin Ffraingc, a anwŷd 11, o flynŷddoedd ar ôl ein Brenin Wiliam, sef y 22 dŷdd o fîs Hydref yn y Flwŷddŷn 1661, a'i oed ef y Leni ŷw 33, o flynŷddoedd.
Ein grasusaf Frenhines Mari a anwŷd y 30, dŷdd o fîs Mai, yn y Flwŷddŷn o oed Jesu 1662, ac i mae hi o oedran y Leni yn 32, o flynŷddoedd. Duw a Roddo iddi hir hoedel ac iechŷd i'n llyfodraethu.
GWybyddwch fôd yr Almanacc hwn ar werth yn Llundain gyda 'r Almanaccau Saesnaeg, sef yn Stationers-Hall. Ac yn y mwŷthig, gan Mr. Gabriel Rogers Gwerthwr llyfrau.
GAN fôd y Papur y Leni yn ddrudtach o'r hanner nag oedd ef Cyn y Rhyfel, gwybyddwch nad ellir gwerthu mo'r Almanacc hwn dan ddwŷ geiniog mwŷ ymhob dwsing nag a byddid yn ei werthu ef gŷnt. Ac heblaw hynnŷ, gwŷbyddwch fôd hwn yn fwŷ o hanner Sît y Leni na'r Llynedd.