Gwaith Mr. Rees Prichard gynt ficcer llanddyfri yn shir Gaerfyrddyn: a brintiwyd o'r blaen mewn tri Llyfr, wedi gyffylltu oll a chwbl (er nid yn yr vn drefn a chynt) ynghyd ãa Phedwaredd Ran, y nawr gynta yn brintiedig. ...

About this Item

Title
Gwaith Mr. Rees Prichard gynt ficcer llanddyfri yn shir Gaerfyrddyn: a brintiwyd o'r blaen mewn tri Llyfr, wedi gyffylltu oll a chwbl (er nid yn yr vn drefn a chynt) ynghyd ãa Phedwaredd Ran, y nawr gynta yn brintiedig. ...
Author
Prichard, Rhys, 1579-1644.
Publication
London :: printed by J. Darby, viz. one third part, and fourth (now first printed) for Samuel Gelibrand, at the Golden-Ball in St. Pauls Church-yard,
1672.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Devotional literature -- Early works to 1800.
Cite this Item
"Gwaith Mr. Rees Prichard gynt ficcer llanddyfri yn shir Gaerfyrddyn: a brintiwyd o'r blaen mewn tri Llyfr, wedi gyffylltu oll a chwbl (er nid yn yr vn drefn a chynt) ynghyd ãa Phedwaredd Ran, y nawr gynta yn brintiedig. ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A55811.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 18, 2024.

Pages

Cân Arall ynghylch y chwarren.

CYmru, Cymru, mwrna, mwrna, Cwyn fel Ninif Edifara; Gwisc di sâch, cyhoedda ympryd; Llêf am râs, a gwella 'th fywyd.
Y mae Lloeger dy chwaer hyna, Yn dwyn blinder tôst a gwascfa, Dan drwm wialen y Duw cyfion, Sy'n ei maeddu yn dra creulon.
Y mae 'r plâg yn difa ei phobloedd, Fel Tân gwyllt y ddoi o'r nefoedd: Ac fel gwaddath ar sych synydd, Yn gorescyn ei holl drefydd.
Maen hwy 'n meitw yn ddiaros, Wrth y miloedd yn yr wythnos; Ac yn cwympo ar ei gilydd, Yn gelanedd mewn heolydd.
Nid oes eli, nid oes metswn, Nid oes dwr na deigre miliwn, All ei ddiffodd, och nai laesu! Ond trugaredd Duw a'i allu.
Y mae Llundain fawr yn mwrno, Fel Caersalem gwedi hanreithio; Nid oes dim ond ochain ynddi, Cwynfan tôst, a llef annigri.

Page 387

Mae 'r fâth alar, mae'r fâth dristwch, Mae 'r fâth gwynfan a thrafferthwch; Mae 'r fâth waywyr a'r fâth ochain, Na bu 'r fâth erioed yn Llundain.
Mae pob grâdd yn gweld yr Ange, Ger ei bron yn cwnnu gledde, Ac yn disgwyl heno, heddu, Am y cart i dwyn i'w claddu.
Y mae'r gwŷr yn gweld y gwragedd, A'u Plant anwyl yn gelanedd, Yn y tai yn dechre sowso, Heb gael vndyn a'u hamwisco.
Y mae 'r gwragedd hwynte 'n ochain, Weld y gwŷr a'u plant yn gelain; Ac heb feiddio myned allan, Yn gwall-bwyllo 'n flin gan ofan.
Mae 'r ymddifaid bach yn gweiddi, Yn y tai heb nêb i porthi: Ac yn sugno brest eu mamme, Gwedi marw er ys tridie.
Nid oes cymmorth, nid oes cyssur, O'r nêf, o'r ddaer, o'r môr na'r awyr, O'r Dre na'r wlâd, o'r maes na'r winllan, O'r llan na'r llys, o'r gaer na'r gorlan.
Y mae 'r Iach yn gweld y trwcle, Y fae gynt yn dwyn tommenne, Heb ddwyn dim o'r gole i gilydd, Ond y meirw i'r monwentydd.
Mae rhai byw yn hanner marw, Cyn del arnynt wŷn na gwayw, Wrth weld cymmaint yw 'r diale, Sy'n digwyddo am eu penne.

Page 388

Ni chair rhydd-dyd fyned allan, Ni chair bwyd i mewn dros arian, Ni chair tramwy at vn Christion, Ni chair madel â'r rhai meirwon.
Yn y tai mae 'r plâg a'r cowyn, Yn yr hewl mae 'r cri a'r newyn: Yn y maes mae 'r cigfrain duon, Hwyntau 'n pigo llygaid cleifion.
Y mae 'sowaeth Duw a dynion, Gwedi gado 'r rhain yn dlodion, Heb roi help na swccwr iddyn, Yn eu nychdod tôst a'u newyn.
Mae Duw 'n chwerthin am eu penne, Ac a'i fys yn stoppi glustie, Ac heb wrando gweddi canmil, Eisie gwrando llais ei fengyl.
Y mae dynion anrhugarog, Yn eu ffoi fel cwn cynddeiriog; Gwell yw ganthynt weled gwiber, Yn y wlâd nâ gweled Lyndner.
Waith bôd dŷn â'r plâg yn nyrddo, Pôb rhyw ddyn a ddelo atto, Ac yn lladd â gwynt ei ddillad, Fel y Basilisc â'i lygad.
Ni baidd Tâd fynd at ei Blentyn, Na gwraig drin y Gŵr â'r cowyn, Na ffrind weld ei ffrind â'r clefyd, Heb fawr berig am ei fywyd.
Y mae 'r fam yn lladd â'i chyssan Ei hanwylyd Blentyn bychan; Ac heb wybod yn andwyo, Hwn â'r plâg tra fytho 'n sugno.

Page 389

Ymae 'r Tâd yn lladd â'i anal, Ei Blant anwyl yn ddiattal; Ac fel Coccatris gwenwynllyd, Yn ddi-sôn yn dwyn eu bywyd.
Y mae 'r Plentyn y glefychwys, Ynte 'n lladd ei fam a'i magwys; Ac o'i anfodd yn inffecto, Yr holl dylwyth lle bo 'n trigo.
Mae 'n hwy 'n meirw yn ddisymmwyth, Gwŷr a gwragedd, Plant a thylwyth, Wrth y pumcant yn y noswaith, Nes mynd Llundain megis anrhaith.
Mae 'r fâth wylo, mae'r fâth ochain, Ymmhôb cornel o dre Lundain: Ni bu 'rioed o'i fâth yn Rama, Gynt gan Rachel a'i chyfnessa.
Mae 'r offeiriaid a'r 'pregethwyr, Yn alaru maes o fessur, Weld eglwysydd lle 'r oedd miloedd, Fel lluestai heb ddim pobloedd.
Y mae'r Marchants mawr a'u Shioppe, Llawn o frethyn aur a laese, Heb gael gwerthu dim o'r llathaid, I roi bara i prentissiaid.
Y mae 'r crefftwyr hwynte 'n ochain, Gwedi gweithio pethau cywrain, Heb gael vn dŷn idd eu prynu, Ac yn barod i newynu.
Mae lletteu-wyr y Gwŷr mawrion, A'r Arglwyddi, a'r Marchogion, A'u Hostrie mawr yn wâg, Heb neb ynddynt oud y plâg.

Page 390

Y mae 'r water-men a'r porters, A'r caraniswyr oll, a'r haliers, Heb gael lle i ennill dimme, I roi bara yn eu bolie.
Mae 'r farchnatfa lle 'r oedd llafur, Cîg a physcod tu-hwnt i fessur, A phôb moethe o'r dainteithia, Heb na chîg, na blawd, na bara.
Y mae llawer oedd yn ceisio, Quailes a Phesants idd eu cinio, Nawr yn chwennych torri newyn, Ar bŵr Jon a hên ymenyn.
Lle 'roedd beunydd fil o fade, Yn dwyn ymborth, heb law llonge; Nid oes heddyw bwnn yn dwad, O flawd cawl, dros aur i'r farchnad.
Lle 'roedd llewndid o bôb ffrwythi, Ag oedd daer a dwr yn roddi: Nid oes heddyw ond y newyn, Ar drydaniaeth waith y cowyn.
Hyn y barodd ein hen draha, A'n gloddineb, a'n putteindra, A'n gau-dduwiaeth, a'n câs feddwdod, A dirmygu 'r gair yn wastod.
Dymma wabar, dymma ffrwythe, Dymma gyflog ein pechode: Dymma 'r faethgen dôst haeddassom, Am y brynti gynt a wnaethom.
Dymma fel y gall Duw cyfion Dynnu lawr y Trefydd m••••rion, Mewn byrr ennyd am anwiredd, A'u darostwng am eu balchedd.

Page 391

Dymma fel y gall Duw blygu Pobol drawsion y fo 'n pechu, Ac heb wneuthur pris o'i ddeddfe, A'u committo dan law 'r Angeu.
Hyn haeddassom er ys dyddie, Hyn y ddylem bawb i adde: Cyfiawn yw Duw a diargoedd, Yn ei ffyrdd a'i holl weithredoedd.
Ni hauassom bob diffeithder, Gynt rhwng cwyse anghyfiawnder, Rym ni 'n medi, 'rym ni 'n casclu Y crop y ddygodd pechod inni.
Dymma 'r dial gynt addawodd Duw i ddanfon ar y boblodd, Nas gwasnaethent â'i holl galon, Ac na chadwent ei orchmynnion.
Dymma 'r faethgen y gaiff Cymru, Eisie gwella a difaru, A chymmeryd rhybydd dyner, Oddiwrth blâg a dial Lloeger.
Pan y helodd Duw 'r sâth wialen, Ar y bobol dda o Lunden, Ma'rnai ofan y daw cleddu, Ar y bobol ddrwg o Gymru.
Pan na chymre bobol Juda, † Warning brûdd oddiwrth Samaria; Duw rows Juda i gathiwed, Fel Samaria dan law 'r Siriaid.
Pan na chymmer Cymru warning, Oddiwrth Loeger yn ddidaring: Ma'rnai ofan y daw dial Ar y Cymru, a phlâg anial.

Page 392

Pan y glawiodd Duw gorucha, Dân ar Sodom a Gomorra, Ni ddiffoddodd o'i lid tanllyd, Nes difethu Zeboim hefyd.
Pan y helodd Duw y chwarren, I dir Lloeger ac i Lunden, Ma'rnai ofan tôst na laesa 'R plag, nes del ymweld a Chambria.
Os pan helodd Duw y cledde, I Germania a'i chyffinnie, Eisie i'r ffrangeod gymryd rhybydd, F'aeth y cleddyf trwy holl drefydd.
Eisie i Loeger gymryd warning, Oddiwrth Bohem, ffraingc a fflushing, Y mae Duw yn cospi Lloeger, Yn saith gwaeth nag vn o'r nifer.
Oni chymmer Cymru rybydd, Oddiwrth Loeger drist a'i chustydd; Ma'rnai ofan gweld ar fyrder Blâg yng Hymru waeth nâ Lloeger.
O gan hynny Cymru mwrna, Gâd dy bechod, edifara; Dysc gan Ninif geisio heddwch, Cyn del dial a diffaithwch.
Cûr dy ddwyfron, wyla 'r hallt-ddwr, Golch dy wisc yng waed dy Brynwr; Llef am râs, a gâd dy frynti, Cyn dialer dy ddrygioni.
Cyn y tynno Duw ei gledde, Cwymp yn issel ar dy tinie; A chais râs a ffafar gantho, Cyn i'r Ange dîg dy daro.

Page 393

Ofer crio gwedi 'th glwyfer, Ofer ymbil gwedi 'th farner, Ofer ceisio torri 'r wialen, Gwedi rhodder itti 'r faethgen.
Cwyn gan hynny, gwachel oedi, Bryssia 'n esgyd, gâd dy frynti: Gwel y farn sydd uwch dy gobyn, Tro, cyn caffoi arnad ddisgyn.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.