Page 252
DOSPARTHIAD. XII.
Am Ledrad; am Dwyll mewn ymddiried, mewn marsiandiaeth; am Atgyweiriad, &c.
* 1.11. YR Ail Rhan o Ledrad yw dwyn od∣diar ein Cymydog y péth sydd yn barod yn ei feddiant ef; a hyn a ellir ei wneuthur naill a'i yn fwy angerddol ac yn gyhoeddus, neu ynteu yn ddir∣gel ac yn gyfrwys; y môdd cyntaf yw arfer y rhai a fo yn lledratta ar y ffordd fawr, neu yn Yspeilio tai, lle y maent yn dwyn ymmaith Ddâ dŷn trwy drais; y llall yw arfer y lleidryn ys∣gafnllaw, yr hwn a ddŵg ymmaith Ddâ dŷn heb wybod iddo ef; ni ymddadleua'i ddim pa ún o'r rhain sydd waethaf, dygon yw fód pób ûn o honynt yn gyfryw weithredoedd o anghy∣fiawnder ac a wná dynion yn atgás gan Dduw, yn anghymys i gymdeithas ddynol ac yn bra∣dychu y gwneuthur-wŷr i'r drŵg mwyaf yn y bŷd hwn, gan fód y Gyfraith gwedi ordeinio marwolaeth yn wobr am y pechod hwn; ac nid oes nemmawr ar sydd yn dilyn y cwrs. ymma yn hîr, nad ydynt o'r diwedd yn cyfar∣fod ar gwobr hwn. Yn ddiammeu Ynfy∣drwydd yw i ddŷn gredu y gall efe Ledratta yn wastad yn ddiogel, oblegid y mae efo i ym∣drechu a diwydrwydd y rhai oll a dderbyniant y Cam hwn gantho ef, colled pa rai a'i hannoga