Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ...

About this Item

Title
Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ...
Author
Allestree, Richard, 1619-1681.
Publication
London :: Printed for R. Royston ...,
1672.
Rights/Permissions

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Early English Books Online Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this text, in whole or in part. Please contact project staff at eebotcp-info@umich.edu for further information or permissions.

Subject terms
Christian life.
Devotional exercises.
Cite this Item
"Holl ddled-swydd dyn gwedi ei osod ar lawr, mewn ffordd hynod ac eglur, desnyddiol i bawb, ond yn enwedig i'r darllenydd mwyaf annyscedig : gwedi ei ddosparthu i XVII. o bennodau : y rhai, trwy ddarllen un o honynt boáb dydd yr Arglwydd, a ddarllenir i gyd trostynt deirgwaith yn y flwyddyn : angenrheidiol i boáb teuluoedd : ynghyd a Dwywolder neillduol ar amryw achosion / a gyfiaithwyd yn Gymro-aeg gan Jo. Langford ..." In the digital collection Early English Books Online 2. https://name.umdl.umich.edu/A23743.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 17, 2024.

Pages

Page 113

DOSPARTHIAD. V.

Am Addoliant dledus i Enw Duw. Am Weddi, a'i hamryw Rannau. Am We∣ddiau cyhoedd yn yr Eglwys, yn y Teulu▪ Am Weddi neillduol. Am Edifeirwch, &c. Am Ympryd.

1. YR Wythfed Ddled-swydd sydd arnoni i Dduw yw Addoliant; hynny yw 'r Ddled-swydd fawr honno, trwy ba ûn yn bennaf yr ydyn i yn cyd∣nabod ei Dduwdod ef, gan fòd Addoliant yn unic yn briodol i Dduw, ac am hynny, rhaid yw ed∣rych ar hon megys Dled-swydd pwysfawr▪ Hon a gyflawnir, yn gyntaf gan ein Heneidiau, yn ail, gan ein Cyrph: Rhan yr Enaid yw Gweddio. Yn awr Gweddi yw ymddiddan a Duw, ac y mae amryw rannau o honi, yn ól yr amrafael bethau y boni yn ymddiddan am danynt.

2. Megys yn gyntaf, Cyffes, hynny yw, cyd∣nabod ein Pechodau ger bron Duw. Ac hyn a ddichon fód, naill ai'n gyffredinol neu yn neill∣duol; gyffredinol yw pan fòni yn unic yn cyffessu yn hollawl, ein bód ni yn bechadurus; y neillduol, pan foni yn adrodd yr amryw weithrediadau a rhywogaethau o'n pechodau. Rhaid yw i'r cyn∣taf fód yn wastad yn rhan o'n Gweddiau cyho∣eddus ni, pa ûn bynnag ai'n Bublic, ai'n neiliduol.

Page 114

Y llall a berthyn i weddi neillduol, ac yno goreu po mynychaf yr arferir hi; jë, fe weddai i ni yn ein Gweddi neillduol feunyddiol gofio yn wa∣stad rai o'n Pechodau mwyaf ac echryslonaf, er cymmaint sydd er pan aethant hwy heibio. Ca∣nys y cyfryw rai ni ddyleni byth dybied ddarfod i ni ei cyffessu a galaru yn ddigonol o'i plegid. A rhaid yw i'r Galar hwn yn wastad fyned yng∣hyd a Chyffes; rhaid i ni ymofidio yn ddifrifol am y pechodau y boni yn ei cyffessu, a chydnabod o eigion ein Calonnau ein annheilyngdod dir∣fawr yn ei gwneuthur hwynt. Canys nid diben ein Cyffes ni yw addyscu Duw, yr hwn a ŵyr ein pechodau ni yn well na ni ein hunain, ond i'n darostwng ein hunain; am hynny na thybiwn ddarfod i ni gyffessu yn jawn, nes y bo hynny gwedi i wneuthur.

3. Yr ail rhan o Weddi iw Archiad, hynny yw, erfynniad ar Dduw beth bynnag a fo arnoni eisieu i'n Heneidiau neu'n Cyrph. I'n Heneidiau rhaid yw i ni yn gyntaf, erfyn Maddeuant o'n pechodau, a hynny er mwyn Jesu Grist, yr hwn a dywalltodd ei waed er mwyn hynny. Yna rhaid i ni eiriol Grâs a chymmorth Yspryd Duw i'n cynnorthwyo ni i ymadel a'n pechodau, a rhodio mewn Ʋfydd-dod iddo ef. Ac ymma an∣genrhaid fydd erfyn yn neillduol yr holl amryw Rinweddau, megys Ffydd, Cariad, Zél, Purdeb, Edifeirwch, a'r cyffelyb, ond yn enwedig y rhai hynny sydd arnati fwyaf ei heisiau: Am hynny Ystyria beth yw dy angenrheidiau, ac os wyti 'n falch gweddiá 'n daer am Ostyngeiddrwydd; os anllad, am Ddiweirdeb: ac felly am bób Grasau craill, yn ól y gweli dy Angenrheidiau. Ac yn

Page 115

yr holl bethau hyn a berthyn i'r Enaid, bydd yn daer iawn ac yn haerllug; na chymmer ûn naccá gan Dduw, ac na ddyro heibio, er nad wyti yn y mann yn cael y peth yr wyti 'n ei gei∣sio, canys er cyhyd y darfu i ti weddio am Râs, ac etto heb ei gael, na flina'n gweddio, eithr yn hyttrach chwilia beth yw'r achos sydd yn gwneuthur dy Weddi mor anghymmeradwy; edrych a'i ti dy hûn sydd yn ei rhwystro hwynt; ysgatfydd, yr wyti 'n gweddió ar i Dduw dy gymmorth di i orchfygu rhyw Bechod, ac etto heb ûn amser ymroi i ymladd yn ei erbyn ef, na gwneuthur gwrthymdrech yu y bŷd iddo, ond ymroi iddo cyn fynyched ac y delo, jé, dy osod dy hûn ar ei ffordd ef, ac yn llwybr pobrhyw Brofedigaethau. Os fal hyn y mae, nid rhyfedd os ni thyccia dy Weddiau-di ddim, oblegid ni óddefi di iddynt. Am hynny, diwygia hyn, ac ymro 'n ddifrifol i wneuthur dy ran di, ac yna nid rhaid i ti ofni na wná Daw ei ran ynteu.

4. Yn ail, rhaid i ni erfyn hefyd tros ein Cyrph, hynny yw, rhaid i ni ofyn gan Dduw y cyfryw∣bethau ac sydd angenrheidiol i'n bywyd; tra y byddoni byw ymma. Ond y rhai hyn yn unic yn y cyfryw rádd a mesur ac y gwelo ei Ddie∣thineb éf fod yn oreu i ni; ni wasanaetha i ni ryfygu torri atton ein hunain, neu weddio am yr holl olud, neu fawredd hynny, y bo ein Calonnau ni ysgatfydd yn ei chwennych, ond yn unic am ý cyfryw gyflwr oddiallan, ac a welo ef fód fwyaf yn tueddu at y dibennion mawr hynny o'n by∣wyd ymma, ei Ogoneddu ef, a chadw ein He∣neidiau.

Page 116

5. Trydydd ran o Weddi yw Adolwyn, hynny yw, pan weddion ar i Dduw droi ymmaith rhyw ddrwg oddiwrthym ni. Yn awr fe áll y drwg hwn fod naill ai drŵg Pechod, neu ddrwg Cospe∣digaeth. Rhaid i ni yn enwedig weddio yn erbyn drŵg Pechod gan erfyn yn daer ar Dduw, fód iddo éf trwy allu ei Râs ein cadw ni rhag Syr∣thio i Bechod. Ac yn enwedig ymbilia 'n ddi∣frisol ar fód i Dduw dy gadw di rhag y Pechodau hynny y gwyddost dy fôd fwyaf yn tueddu attynt. Hyn sydd raid ei wneuthur beunydd, ond yn fwy enwedig y prŷd hynny, pan foni tan ryw Bro∣fedigaeth bresennol, ac mewn perigl o Syrthio i ryw Bechod, ymmha gyflwr y mae i ni achos i waeddu allan gyda St. Pedr, pan welodd ef ei hûn ym mron suddo, Achub Arglwydd, neu fe ddârfu am danaf; gan erfyn yn ostyngedig arno ef naill ai tynnu ymmaith y Temptasiwn, neu'n cryfhau ni i'w wrthsefyll ef; ac nid allwn wneu∣thur na'r naill na'r llall o honom ein hunain.

6. Yn ail Rhaid i ni hefyd weddio yn erbyn Drwg Cospedigaeth, ond yn bennaf yn erbyn Cos∣pedigaethau ysprydol, megys Digofaint Duw, Gwa∣harddiad ei Rás ef, a Damnedigaeth dragywyddol. Yn erbyn y rhai hyn nid allwni byth weddio yn rhy ddifrifol: ni a allwn hefyd weddio yn er∣byn Cospedigaethau amserol, hynny yw, trallod od∣diallan, ond hyn trwy ymddarost yngiad i Ewyllus Duw, yn ol Esampl Crîst, Mat. 26.39. Nid fel yr cwyllyswyfi, ond fel yr ewyllysiech di.

7. Pedwerydd ran Gweddi yw Cyfryngiad, hynny yw, Gweddio tros eraill. Rhaid i ni

Page 117

wneuthur hyn yn gyffredinol tros holl ddynol Ryw, yn gystal dieithriaid a chyfnesseifiaid, ond yn fwy neillduol, tros y rhai sydd o Berthynas yspysol i ni, naill ai 'n gyffredinol, megys ein Lywiawd-wyr gystal yn yr Eglwys a'r Deyrnas; neu yn wahanredol, megys Rhieni, Gwr, neu wraig-briod, Plant, Ceraint, &c. Rhaid yw i ni weddio hefyd tros bawb a'r sydd mewn trallod, a'r cyfryw rai yn neillduol, y boni yn enwedig yn ei ddirnad i fód felly: jé rhaid i ni weddio tros y rhai a wnaeth gam a ni, ac a'n drygant ac a'n herlidiant, canys hyn yw hynod Or∣chymyn Crîst, Mat. 5.44. Ac fe roes ef ei hûn i ni'r Esampl fwyaf o hyn trwy weddió tros ei groeshoelwyr, Luc. 23.34. O Dad ma∣ddeu iddynt. Tros yr holl fáth ymma o ddy∣nion y mae 'n rhaid i ni weddió, a hynny am yr unrhyw bethau daionus ac a erfynioni troson ein hunain, ar fôd i Dduw roddi iddynt yn ei ham∣ryw leoedd a'i galwedigaethau bób Bendithion Ysprydol ac amserol a welo ef fôd yn diffygiol arnynt, a throi ymmaith oddiwrthynt bób drwg, pa ún bynnag ai o Bechod neu o Gospedigaeth.

8. Pummed Rhan gweddi yw Diolchgarwch, hynny yw, Moliannu a Bendithio Duw, am ei holl Drugareddau, pa ûn bynnag ai i ni ein hu∣nain, ai i'n perthynas nessaf, neu yntau i'r Eg∣lwys a'r Deyrnas yr ydyni yn aelodau o honynt, neu etto yn fwy cyffredinol i holl Ddynol ryw; a hynny am ei holl Drugareddau yn gystal Ys∣prydol ac amserol. Yn yr Ysprydol, yn gyntaf, am y rhai sydd yn perthyn i ni i gyd yn gyffre∣dinol, megys rhoddiad ei Fâb, danfoniad ei Ys∣pryd, a'r holl foddion hynny a arferodd ef er

Page 118

mwyn tynnu Dynion pechadurus atto'i hûn. Yna yn ail, am y Trugareddau hynny a dder∣byniasom ni yn neillduol, megys ein bód gwedi ein geni o fewn corlan yr Eglwys, a'n dwyn i fynu yn y Grefydd Cristianogawl, trwy ba ûn y buon gyfrannogion o'r holl Ragorfreintiau gwerthfawr hynny o'r Gair, a'r Sacramentau, ac felly a gáw∣som, heb ein gofal na'n poen ein hunain, foddion ein bywyd tragywyddol gwedi ei dodi yn ein dwylo. Ond heblaw hyn, nid oes y rún o ho∣noni na dderbyniasoni drugareddau ysprydol eraill oddiar law Duw.

9. Megys yn gyntaf, Dioddefgarwch ac amy∣nedd Duw, yn hir aros am ein Hedifeirwch, heb ein torri ni ymmaith yn ein Pechodau. Yn ail, ei Alwad a'i wahoddiad ef i ni i'r edifeir∣wch hwnnw, nid yn unic oddiallan, trwy weini dogaeth y Gair, ond hefyd oddifewn, trwy gynnhyrfiadau ei Yspryd. Ond os darfu i'r Galwedigaethau hyn trwy gynnorthwy Grâs Duw weithio arnati, a'th ddwyn o fuchedd fydol halogedig i fuchedd Gristianogawl, yna 'n ddi∣ammeu 'r wyti yn y râdd uchaf yn rhŵym i fawr∣hygu a moliannu ei ddaioni ef, gan iti dder∣byn gantho ef y Drugaredd fwyaf a all fôd.

10. Rhaid i ni hefyd ddiolch am Fendithion Amserol, pa ûn bynnag ai y cyfryw rai ac a ber∣thyn i bawb yn gyffredyn, megys Llwyddiant yr Eglwys, neu 'r Deyrnas, a phob ymwaredau hy∣nod i bób ûn o'r ddau; neu yntau y cyfryw ac a berthyn i ni ein hunain yn neillduol; y rhai ydyw 'r holl bethau da y bŷd hwn yr ydyn i 'n i fwynhau; megys Iechyd, Ceraint, Ym∣borth,

Page 119

Gwiscoedd, a'r cyffelyb; ac hefydd am yr amddiffynniadau hynny trwy ba rai i'n cedwir bôb munyd rhag perigl trwy rasusol ragluni∣aeth Duw; a'r ymwared enwedigol a roddes Duw i ni yn amser yr Enbydrwydd mwyaf. Ammhos∣sibl yw gosod ar lawr yr amryw Drugareddau y mae pob dŷn yn ei derbyn gan Dduw, oblegid ei bôd yn rhagori mewn rhyw a mesur rhwng y naill ddyn a'r llall. Ond y mae'n siccr fôd i'r hwn a dderbyniodd leiaf ddigon o achos i dreu∣lio' i holl fywyd yn Moliannu Duw. Ac fe sy∣ddei 'n dra-chymwys i bôb dyn ystyried yr amryw rannau o'i fywyd, a'r Trugareddau a dder∣bynniodd ef ymmhób ûn, ac felly cynnull yng∣hydd megys Llyfran, neu Gatalog o honynt, o'r lleiaf y rhai pennaf o honynt, y rhai a ddichon ef yn wastad ei coffhau, a'i hadrodd yn fynych ger bron Duw a chalon ddiolchgar.

11. Y rhai hyn yw amryw Rannau Gweddi, a'r cwbl i'w harferu yn gystal yn gyhoeddus ac yn neillduol. Yr arfer gyhoeddus o honynt sydd yn gyntaf, yn yr Eglwys lle y mae pawb yn ymgyfarfod i gydsylltu yn y Gweddiau hynny y rhai a berthyn i bawb yn gyffredinol. Ac nyni a a ddylen (lle y mae y Gweddiau yn y módd y dylent fôd) gyrchu yn wastadol at y rhai hyn, gan fod Bendith enwedigol gwedi ei haddaw i ddeisyfiadau cyssylltiedig y ffyddloniaid, ac y mae 'r neb a' habsenno ei hunan heb achos cyfreith∣lawn oddiwrth y cyfryw Weddiau cyffredin, yn ei torri ei hunain oddiwrth yr Eglwys, yr hin yn wastad a edrychwyd arno yn beth mor anned∣wydd, a'i fôd efyn Gospedigaeth trymmaf a all Lly∣wodraeth-wŷr yr Eglwys ei osod ar y Trosseddwr

Page 120

gwaethas; ynfydrwydd rhyfeddol gan hynny yw, i Ddynion osod hynny arnynt ei hu∣nain.

12. Ail máth ar Weddi Gyffredin yw honno yn y Teulu, lle y mae 'r holl Dylwyth yn cydsylltu yn eu deisyfiadau cyffredin; a hon hefyd a ddy∣lid yn ofalus ei harferu ai dyfal ystyried, yn gyn∣taf gan y Penteulu, yr hwn sydd i edrych ar fod y cyfryw Weddiau, oblegid fód yn perthyn iddo ef yn gystal baratoi i Enediau ei Blant a'i Wasa∣naethyddion, a pharatoi ymborth i'w Cyrph hwynt. Nid oes neb gan hynny, hyd yn oed y Penteulu gwaelaf na ddylei ofalu am hyn. Os medr naill ai ef ei hûn, ai un o'i Dylwyth ddarllen, fe a all arferu rhai Gweddiau allan o ryw Lyfr da, os allan o Lyfr-gwasanaeth yr Eglwys, mae ef yn dewis yn dda; os ni fedrant ddarllen, yna fe fydd yn agenrheidiol iddynt ddyscu heb law 'r Llyfr ryw ffurf o weddia allont hwy ei harferu yn y Teulu, i ba ddiben trachefn fe fydd rhai o weddiau'r Eglwys yn dra-chymwys gan ei bod hwynt yn hawdd iawn i'w coffad∣wraeth nhw, oblegid eu byrdra, ac etto yn cynnwys llawer o Ddefnydd. Ond pâ ddewisiad bynnag o weddiau a wnelont, byddant yn siccr o fôd ganddynt rai, ac na chadwed neb a'r sydd yn ei broffessu ei hún yn Gristion, Deulu mor ddigredd, ac na welo of addoli Duw yntho beunydd. Ond gwedi i'r Penteulu wneuthur ei Ddlêd ei hun yn paratoi hyn, Dledswydd pob ûn o'r Tylwyth yw gwneuthur Defnydd o'r Para∣tóad hwnnw trwy fod yn wastadol ac yn ddiwyd ar y Gweddiau Teuluaidd hynny.

Page 121

13. Gweddi wahanredol neu ddirgel yw 'r hon a arfera dyn yn unic ar wahan oddiwrth bawb eraill, ymmha ûn y bydd raid i ni fôd yn fwy neillduol yn ól ein hamryw neillduol angenrheidiau, nag y gweddai i ni fod yn gyhoeddus. A'r Weddi wahan∣redol hon sydd yn Ddled-swydd nad ellir mo'i hes∣cusodi trwy gwplhau 'r llall o Weddi gyhoeddus. Fe ddisgwylir pob ûn o'r ddwy, ac nid ellir cymmeryd y naill yn gyfnewid am y llall. A phwy bynnag sydd yn ddiwyd mewn Gweddiau cyffredin, ac etto yn esgeulus yn y neillduol y mae i'w ofni 'n ddirfawr ei fôd ef yn ceisio ei wneuthur ei hun yn gymmeradwy i ddynion yn hyttrach nag i Dduw; yngwrthwyneb i Orchy∣myn ein Hiachawdr, Mat. 6. yr hwn sydd yn gorchymyn i ni 'r Weddi neillduol hon, sef gweddio ar ein Tád yn y dirgel, oddiwrth bwy ûn yn unic y mae i ni ddisgwyl ein gwobr, ac nid oddiwrth ofer Glôd gan Ddynion.

14. Yn awr rhaid yw cwplhau 'r Dyled∣swydd hon o weddi yn fynych, o'r lleias gan bawb y Boreu a Phrŷdnhawn, gan fod yn dra∣angenrheidiol i ni fal hyn ddechreu a diweddu 'n holl orchwylion gydá Duw, ac hynny nid yn unic o herwydd y Ddled-swydd dledus arnoni iddo ef, ond hefyd o'n plegid em hunain, y rhai ni all bŷth fôd nag yn ddiogel nag yn Uwyddian∣nus, ond trwy 'n gorchymyn ein hunain iddo ef; ac am hynny a ddylen arwsydo osod ar Be∣ryglon y Dŷdd na 'r nós hebei nodded ef. Rhaid yw barnu mor fynych y bydd raid cwplhau 'r Ddled-swdd hon yn ol y gorchwyla'r neges a fydd gan ddynion; lle nid wyfi 'n meddwl, wrth Orchwyl, y cyfryw ac a fydd Dynion yn an∣fuddiol

Page 122

yn ei torri allan iddynt ei hunain, ond y gorchwyl angenrheidiol o Alwedigaeth dŷn, yr hwn ni ddyry i rai lawer o amser i weddi gyhoeddus osodedig. Ond fe all y rhai hyn yn fynych yn y dydd dderchafu ei Calonnau at Dduw mewn rhyw rai Gweddiáu byrrion, iê tra 'i bonhw ynghylch ei gorchwyl. Am y rhai sydd ganddynt fwy o ennyd, fe ddylenhw mewn pob rheswm osod heibio fwy o amser i'r Ddledswydd hon. Ac na ddyweded néb yr hwn sydd gantho ddigon o amser i'w dreulio ar eu wagedd, ac ysgatfydd ar eu Bechodau, fod arno ef eisiau amser i weddio, ond ymegniéd yn awr i adbrynnu 'r hyn a dreu∣liodd ef ar gam, trwy roi heibio o hyn allan fwy o amser yn y Ddledswydd hon: A diammeu pe iawn ystyrien 'i pa lesháad ddirfawr sydd i ni ein hunain o gwplhau 'r Ddledswydd hon, ni a dybien en synhwyrol fôd cyn fynyched arni hi, ac ydyni gan mwyaf yn anfynych ynthi hi.

15. Canys yn gyntaf, y mae 'n Anrhydedd fawr i ni bryfed gwael o'r Ddaiar gael ein cynnwys i draethu mor hŷf a Mawrhydu 'r Nêf. Os tybiei Brenin yn deilwng adael i un o'i Ddeiliaid gwaelaf siarad yn dráhyf ac yn hyderus ac ef, fe a eddrychyd ar hynny megys Anrhydedd ddirfawr; fe fydde 'r Dŷn hwnnw er mor ddirmygus oedd ef o'r blaen, yn genfigen i'w hol gymydogion; a diammeu efe a fydde bod∣lon i gymmeryd pód achlysur i dderbyn cym∣maint o barch. Ond och! nid ydyw hyn ddim i'r Anrhydedd a gynnygir i ni, y Rhai sydd gen∣nim gennad, iê a wahoddir i siarad, ac ym∣resymmu a Brenin y Brenhinoedd, mor barod gan hynny a ddyleni fôd i hynny?

Page 123

16. Yn ail y mae 'n llesháad mawr, iê 'rmwyaf a ellir i ddychymmig; oblegid Gweddi yw'r offer i ddwyn i lawr i ni bòb pethau da, yn gystal ysprydol ac amserol; nid oes ûn Weddi, yr hon a wneir fal y dylyd nad yw yn dwyn i lawr fendith, fal y dywed y gŵr Doeth, Ecclus. 35.17. Gweddi y Gostyngedig a aiff trwy cymmylau, ac nid ymedy hines i'r Goruchaf edrych arni. Chwi a dybiech hwnnw yn ŵr dedwydd, yr hwn a fydde gan∣tho ûn modd diogeli'w helpu fo i beth bynnag a fo arno eisieu, er costio o hynny iddo ef lawer o boen a llafur; y cyfryw ddŷn dedwydd a elli di fôd, os mynni. Gweddi yw 'r modd siccr o ddwyn iti cymmaint oll ac sydd arnati ei eisieu, hynny yw, cymmaint ac a wél Duw fôd yn gymmwys, er ysgatfydd nid cymmaint ac a debygi di fôd arnati ei eisieu. Ac am hynny er maint o flinder i'r Cnawd a fo yn y Ddled-swydd, etto wrth ystyried fod arnati yn wastad eisieu rhyw beth neu 'i gilydd gann Dduw, yn∣fydrwydd yw gadael i'r anhawsder hynny dy ddigalonni di, a'th gadw oddiwrth y moddion siccr hyn o gyflawni dy angenrheidiau.

17. Ond yn drydyd y mae 'r Ddle-swydd hon yn∣thi hun cymmhelled oddiwrth fód yn flín a'i bôd hi en drahyfryd. Duw yw ffynnon pob Dedwyddweh ac ar ei ddeheu-law ef y mae digrifwch yn dragy∣wydd, Ps. 16.11. Am hynny po nessaf y deuwn ni atto ef, dedwyddach a fyddwn ni, gan fôd Llawenydd ternas Nêf yn tarddu allan o'n nesder ni at Dduw. Yn awr nid oes i ni yn y bùd hwn ûn modd o ddyfod cyn nessed atto es, a thrwy Weddi, ac am hynny yn ddiammeu y mae hiynthi ei hun yn beth a ddichon beri digrifwch

Page 124

ac hyfrydwch dirfawr; os dychwel iddi fód yn amgenach i ni, y mae hynny oddiwrth ryw ann∣hymmhoreiddrwydd yn ein Calonnau ein hunain, yr hwn fal genau clwyfus ni ddichon archwaethu y Bwyd blasussaf. Y mae Gweddi yn Ddled-swydd hyfryd, ond y mae hi hefyd yn ûn Yspry∣dol; ac am hynny os yw dy galon di gnawdol, a chwedi i gosod yn y gwrthwyneb a'r Blesserau 'r cnawd, neu sothach y bŷd, yna nid rhyfedd os ni archwaethu di ddim hyfrydwch ynthi hi, neu os fal yr Israeliaid y dirmygi di'r Manna, ac hiraethu am grochanau cîg yr Aipht. Am hynny os wyti yn gweled blinder, yn y Ddled-swydd hon, ammheua dy hún, púra a glanhá dy Galon oddiwrth Gariad i bób-rhyw Bechod, ac ymeg∣nia i'w gosod hi mewn trefn nefol ac Ysprydol, ac yna ti a ganfyddi nad yw hon yn Ddled-swydd annifir, ond yn llawn o Hyfrydwch a Bod∣lonrhwydd. Yn y cyfamser na achwyna ar an∣hawsder y Ddledswydd, ond gwrthnyssigrwydd dy Galon dy hûn.

18. Ond fe all fod hefyd reswm arall iddi hi i ymweled i fód yn annifir i ni, sef, eisieu ymar∣fer. Chwi a wyddoch fod llawer o bethau y rhai sydd yn edrych megys yn anhawdd ar y profiad cyntaf, y rhai gwedi i ni ymarfer a hwynt a fydd yn dra-hyfryd, ac os hyn yw dy gyflwr di, yna di a wyddost feddiginiaeth barod, sef, ei harferu hi yn fynychach, ac felly y mae'r ystyriaeth ymma yn naturiol yn annog ac yn cynghori bód ymarferu'r Ddled-swydd hon yn fynych.

Page 125

19. Ond nid digon yw i ni yn unic ystyried mor fynyched, ond mor dda y cwplháon ni hon. I'r perwyl hwn, rhaid yw i ni yn gyntaf edrych ar ddeunydd ein Gweddiau, sef edrych na bo i ni ofyn dim anghyfreithlon; megys dial ar ein Ge∣lynion, neu'r cyffelyb; yn ail, y modd; ac hynny sydd raid bôd yn gyntaf mewn ffydd; rhaid i ni gredu os gofynnwn ni fal y dyleni, y rhŷdd Duw i ni naill ai'r peth y bo'ni yn ei ofyn, neu ynteu ryw beth a welo ef fôd yn well i ni. Ac yna yn ail, mewn Gostyngeiddrwydd, rhaid i ni ein cydnabod ein hunain yn hollawl yn annhey∣lwng o' rún o'r pethau daionus hynny yr ym ni yn ei gofyn, ac am hynny ei herfyn nhw yn unic er mwyn Crîst. Yn drydydd gyda dyfal∣ystyriad, rhaid yw i ni feddwl beth y boni arno, ac nid cymhwys i'n meddyliau wibio at bethau eraill. Mi a ddywedais i chwi ar y cyntaf, mae Dled-swydd yr Enaid yw Gweddi, ond os bydd ein Meddyliau ni yn myned ar ddisperod, gwei∣thred Tafod a'r gwefusau yn unic ydyw hi, yr hyn sydd yn ei gwneuthur hi yngolwg Duw ddim gwell nag ofer-ddadwrdd, ac felly ni ddwg bŷth fendith arnoni. Jë, fal y dywedodd Jacob wrth ei Fam, Gen. 27.12. fe a fydd cyffe∣lypach i ddwyn melldith arnoni na bendith, canys y mae hyn yn halogi ûn o'r rhannau mwyaf cyhoeddus o wasanaeth Duw, y mae 'n ddarn o Ragrith, nessau atto ef a'n gwefusau, pan fo ein Calonnau ymhell oddiwrtho; ac yn ddirmyg a di∣ystyrwch mawr o'r Mawrhydi ofnadwy hwnnw yr ydyni yn dyfod o'i flaen: ac hefyd o'n rhan ein hunain y mae 'n ffolineb dirfawr fód i ni y rhai sydd yn dyfod at Dduw ar y fáth achosion

Page 126

pwysfawr, ac yw'r holl bethau sy'n perthyn i'n Heneidiau a'n Cyrph, ynghanol y cwbl ollwng ein Neges yn angof, a dilyn pób peth gwael y bo naill ai'n ffansi ofer ein hunain, neu Ddiafol (gwaith pa ûn yw ein rhwystro ni ymma) yn ei gynnig i ni. Y mae hyn fal pe dychwelai i Lofrudd, yr hwn a ddeuai at y Brenin i eiriol am ei fywyd, ynghanol ei ddeisyfiad, ganfod Gwybedyn, ac ar hynny ymadel a'i erfynniad, a rhedeg ar ól y gwybedyn hwnnw: oni thy∣biechwi 'n anghymwys iawn daflu ymmaith Bardwn ar y fáth greadur ynfyd-ffol? Ac yn ddiammeu fe a fydd mor anresymmol ddisgwyl i Dduw ystyried a channiadhau ein Gweddiau hynny, y rhai nid ydyni ein hunain yn ei ysty∣ried.

20. Y mae'n sefyll arnoni yn fawr ein har∣fogi ein hunain rhag cyfeiliorni fal hyn mewn gweddi, gan ein bód ni oll trwy natur yn tueddu yn ddirfawr at hynny. I'r diben hwn fe fydd angenrheidiol i ni yn gyntaf, ar ein dyfodiad i Weddi, ddwys-ystyried y Mawrhydi tra-gogone∣ddus yr ydyni yn Nessau atto módd y galloni arswydo fód yn ofer ag yn wagsaw yn ei wydd ef. Yn ail, rhaid ini ystyried mor bwysfawr yw'r pethau yr ydyni yn ei gofyn, rhai o honynt sydd yn gyfryw ac os ni channhiadheid hwynt i ni truanaf o'r holl greaduriaid fyddeni, ac etto 'r gwagfawrwydd hwn yw'r módd i rwystro i ni gael ein gwrando ynddynt. Yu drydydd Rhaid i ni erfyn nawdd a chymmorth Duw yn hyn: Ac am hynny, pan ddechreuoch di dy Weddi, bydded dy Erfynniad cyntaf y grâs hwn o Ddyfal-ystyriad.

Page 127

21. Yn ddiweddaf bydd mor wiliadwrus ac y gellych ar gadw allan o'th galon ar amser gweddi pób meddyliau cyfeiliornus, neu os daeth y rûn i mewn yn barod, na chroesawa mo honynt, ond cyn gynted ac y gelli ei dirnad hwynt, na âd iddynt aros yno ûn munydyn, eithr tafl nhw allan mewn digllondeb, ac erfynia faddeuant gan Dduw am danynt. Ac os dydi fal hyn a ym∣drechi yn ddiwyd yn ei herbyn hwynt, naill ai fe rydd Duw i ti nerth i'w gorchfygu hwynt mewn rhyw fesur, neu o'i Drugaredd fe a fa∣ddeua i ti y péth ni elli di mo'i ochelyd: Ond os bydd hynny trwy di esgeulusdra dy hún, nid elli di ddisgwyl y rún o'r ddau, tra' i parhao 'r esgeulusdra hwnnw.

22. Yn bedwerydd rhaid i ni edrych ar fód ein Gweddiau ni mewn Zêl a difrifwch; nid digon i ni ei hystyried hwynt yn unic cymmhelled ac i wybod pa beth y boni yn ei ddywedyd; ond rhaid i ni ddodi holl egni a defosiwn ein Henei∣diau ar waith, a hynny (fal y rhagddywedais i) yn ól amryw Rannau Gweddi. Ni chaiff y ddei∣syfiad lêsg ddifraw ddim gan Dduw; ni a welwn nad yw hi 'n cael dim gennini ein hu∣nain; canys os gofyn cardottyn wellháad gen∣nimni, a hynny mewn rhyw fôdd ddicra, fal pe byddei fe'n ddifatter pa ûn a wná ef a'i gael a'i peidio, ni a dybien fôd arno ef naill ai ond ychydig eisieu, neu falchder mawr, ac felly ni a fydden yn ddifraw am roddi iddo ef. Yr aw∣rhon yn ddiammeu y mae'r pethau'r ydyni yn ei ofyn gan Dduw cymmaint uchlaw prîs Elusenau cyffredinol, nad allwn ni byth ddisgwyl y rho∣ddir

Page 128

hwynt i ddeisyfiadau ysgoewan diofal. Felly yn yr ûn môdd, ni bydd ein haberth ni o Foliant a Diolchgarwch yn gymmeradwy gantho ef, oni offrymmir hi o galon wîr deimladwy o'i Drugareddau ef; onid-é nid yw ond máth ar wâg rodres yr hyn ni bŷdd byth yn gymmeradwy gantho ef yr hwn sydd yn gofyn y Galon ac nid y gwefusau yn unic. A'r cyffelyb a ellir ei dra∣ethu am holl rannau eraill o Weddi. Bydd ofá∣lus gan hynny pan nessáoch di at Dduw mewn Gweddi, ar dderchafu dy Enaid i'r pwynt uchaf y gellych o Zel a difrifwch. Ac oblegid nad wyti o honot dy hún yn unic yn abl i wneuthur dim, erfynia ar Dduw wresogi dy galon di a'r Tán nefol ymma o Ddefosiwn, a chwedi iti ga∣ffael hynny, gwilia rhag naill ai i ddiffod ef trwy ryw Bechod rhyfygus, neu adael iddo fyned allan o eisieu ei gynnhyrfu ef a gwneuthur def∣nydd o honaw.

23. Yn bummed, rhaid i ni Weddio gydá Phur∣deb, hynny yw, rhaid i ni buro ein Calonnau oddiwrth bób Cariad i Bechod. Hyn yn ddi∣ammeu y mae'r Apostol yn ei feddwl, 1 Tim. 2.8. pan yw yn gorchymyn i ddynion dderchafis dwylo purion mewn gweddi, ac yno y mae fo'n rhoi ar lawr un máth arbennig ar bechod, Digter ac Ammheuaeth; lle trwy ammheuaeth y mae fo'n meddwl yr ymrysonau a'r cynnhennau an∣fwyn hynny sydd mor gyffredinol ymysg dy∣nion. Ac yn wir nid all y néb a groesawo hynny, neu unrhyw bechod arall yn ei galon, fyth dderchafu 'r dwylo Sanctaidd hynny a ofynnir yn y Ddled-swydd hon. Ac yna yn ddi∣ammeu ni thál ei Weddiau iddo ef ddim, er mor

Page 129

ddifrifol ac er amled fyddont. Fe ddywed y Psalmydd iddo na chaiff ef moi wrando, Psal. 66.18. Os edrychaf ar Anwiredd yn fynghalon ni wrendy 'r Arglwydd arnaf. Jë, fe ddywed Solo∣mon etto yn waeth, nad yw Gweddi y cyfryw ún yn unic yn ofer, ond yn ffiaidd, Dihar. 15.8. Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd. Ac i gael fal hyn droi 'n Gweddiau ni i Bechod yw ûn o'r pethau tostaf a all ddychwelyd i ûn dyn: ni a welwn i bód hi gwedi ei gosod ar lawr yn y rhól honno o felldithion Psal. 109.7. Na fyddwn gan hynny mor greulon i ni ein hunain ai dynnu ef ar ein pennau ein hunain, yr hyn yr ydyni yn ddiammeu yn ei wneuthur, os nyni a offrymmwn i fynu ein Gweddiau o galon ammhúr.

24. Yn ddiweddaf, rhaid i ni gyfarwyddo ein Gweddiau i Ddibennion uniawn; ac hynny naill ai o herwydd y Weddi ei hún, neu ynteu'r pe∣thau y boni yn gweddio am danynt; yn gyntaf, rhaid i ni Weddio nid i ennill clód o Ddwywolder ymysg dynion, fal y Rhagrithwyr hynny, Math. 6.5. Nag ychwaith yn unic er mwyn cymdeithas, neu arfer o wneuthur fal y gwná eraill: ond y mae 'n fefyll arnoni ei chyflawni hi, yn gyntaf megys gweithred o Addoliant i Dduw; yn ail megys cydnabyddiaeth mae efe yw'r ffynnon fawr honno, o ba ún yn unic y mae i ni ddisgwyl pób daioni; ac yn drydydd, er ennill cyflawniad o'n holl angenrheidiau ein hunain a rhai eraill. Yna o herwydd y Pethau y boni yn gweddio am danynt; rhaid i ni edrych yn ofalus na bo gen∣nini ddim amcanion drŵg arnynt hwy; gwi∣liwn ofyn pethau fal y treuliom ni hwynt ar ein Trachwantau, Jaco 4.3. Megys y gwná y rhai

Page 130

sydd yn gweddio am Olud, modd y gallont fyw mewn glwthineb a gormodedd, ac am Awdurdod fal y gallont ddrygu ei Gelynion, neu'r, cyffelyb. Ond rhaid yw i'n diben ni yn y cwbl fód, yn gyntaf, gogoniant Duw, ac ar ól hynny, ein Hie∣chydwriaeth ein hunain a rhai eraill, a phób peth arall sydd raid i gymmeryd i mewn yn unic fal y byddont yn tueddu at y pethau hynny, yr hyn ni's gallant byth mo'i wneuthur, os nyni a'i cam∣arferwn hwynt i bechod. Fe ddarfu i mi bellach am y rhan gyntaf honno o Addoliant, sef honno o'r Enaid.

25. Y llall yw Addoliant y Corph ac nid yw hynny ddim ond y cyfryw ymddygiad gostyngedig, ac anrhydeddus yn ein dynessáad at Dduw, ac a ddengys allan barch yr Enaid oddifewn, ac a dalo hefyd iddo ef béth teyrnged oddiwrth ein Cyrph, a pha rai y mae'r Apostol yn gorchymyn i ni Ogoneddu Duw, yn gystal ac a'n Henei∣diau; a rheswm da, gan ddarfod iddo ef greu a phrynu y naill yn gystal a'r llall: pa bryd bynnag yr offrymmi di dy weddiau i Dduw, bydded mewn cwbl ostyngeiddrwydd yn gystal y Corph a'r meddwl, yn ól cyngor y Psalmydd, Psal. 95.6. O deuwch addolwn, syrthiwn i lawr a gostyngwn ger bron yr Arglwydd ein gwneuthurwr.

26. Y Nawfed Ddled-swydd i Dduw ydyw Edifeirwch: fe a'n dyscir gan yr Apostol fód hon yn Ddled-swydd i Dduw, Act. 20.21. lle wrth draethr am Edifeirwch, y mae ef yn ei galw hi yn Edifeirwch tu ag at Dduw. Ac y mae rheswm da ar fód hon yn Ddled-swydd iddo ef, gan nad oes ún pechod yr ydyni yn ei

Page 131

wneuthur nad yw ryw fódd neu 'i gilydd yn ei erbyn ef. Canys er bód pechodau yn ein herbyn ein hunain a'n cymydygion, etto gan ei bód hwynt gwedi di gwahardd gan Dduw y maent hefyd yn Drosseddiadau o'i Orchymynion ef, ac felly yn bechodau yn ei erbyn ef. Mewn gair, nid yw'r Edifeirwch hwn ddim ond troi oddiwrth Bechod at Dduw, a thaflu ymmaith ein holl Be∣chodau o'r blaen, ac yn ei lle hwynt arferu yn ddibaid yr holl Ddled-swyddau Christianogawl hynny y mae Duw yn ei ofyn ar ein dwylo ni. Ac y mae hon yn Ddled-swydd mor angenrhei∣diol, ac y derfydd am danoni yn ddiammeu heb∣ddi hi, y mae i ni Air Crîst am hyn, Luc. 13.5. Onid edifarheuwch, derfydd am danochichwi oll yn yr ûn môdd.

27. Y cyfarwyddiad i gwplhau'r amryw ran∣nau o'r Ddled-swydd hon, a osodwyd ar lawr yn barod yn y Paratóad i swper yr Arglwydd, ac yno yr wyf yn cyfeirio 'r Darllenydd. Yn unic mi a'i coffháf ef ymma nad yw hi yn Ddled-swydd i'w harferu yn unic wrth dderbyn y Cym∣mun. Canys gan fód hyn yn unic feddiginiaeth yn erbyn gwenwyn pechod, rhaid yw i ni ei hadnewyddu hi cyn fynyched ac yr ailgyrchoni ein pechodau, hynny yw, Beunydd. Sef, rhaid i ni bob dydd Edifarhau am bechodau y Dydd hwnnw, canys y peth y mae Crist yn ei ddy∣wedyd am ddrygau eraill, sydd yn wîr hefyd am hyn, digon yw i'r Diwrnod ei ddrwg ei bún; y mae gennini Bechodau ddigon bób dydd i arferu edifeirwch beunyddiol, ac am hynny rhaid yw i bób dŷn fal hyn ei alw ei hun beynydd i gy∣frif.

Page 132

28. Ond megys ac y mae mewn cyfrifon fe fydd gan y neb a osodo yn ddyfal ar lawr ei draul feunyddol, ryw amser gosodedig i fwrw'r cwbl i fynu ynghyd, megys ar ddiwedd yr wy∣thnos, neu 'r mîs; felly hefyd y dyle fód ymma, ni a ddylen osod heibio rhyw amser i'n hym∣ddarostwng ein hunain yn gyhoedd ger bron Duw am ein Pechodau, nid o'r dydd hwnnw yn unic, ond o'n holl fywyd. A pho mynychaf y bo'r amserau hynny goreu fydd. Canys po my∣nychaf fal hyn y bwrion ni i fynu ein cyfrifon gyda Duw, ac edrych pa ddyledion mawr y rhe∣dason ni iddynt, mwy isel a gwael y tybiwn ni o hononi ein hunain, ac ni a hiraethwn yn fwy am ei Drugaredd ef, a'r ddau hyn yw 'r prif be∣thau sydd yn rhaid ein cymmhwyso ni i'w bardwn ef. Y mae ef gan hynny yn cymmeryd cwrs ragorol ar lés ei Enaid, yr hwn a'i gesyd ei hún ún dŷdd yn yr wythnos yn bennodol i'r pwrpas hwn. Neu os bydd cyflwr bywyd rhyw ddŷn mor drafferthus, fal nad allo ef wneu∣thur hyn cyn fynyched, deued cyn nessed at y mynychdra hwnnw ac y bo possibl iddo, gan gofio yn wastad, na ddichon yr ûn o'i negeseuau bydol ef ddwyn i mewn iddo y filed ran o'r Budd ar a ddŵg yr ún Ysprydol ymma, ac am hynny y mae 'n hwsmonaeth ddrwg iawn gyn∣llwyn y rhai hyn trwy esgeuluso 'r llall.

29. Heblaw 'r amserau pennodol hyn, y mae hefyd amserau damweiniol i gwplhau'r Ddled-swydd hon, y cyfryw rai yn enwedig yw Am∣serau cystudd a Thrallod; canys pan ddychwelor cyfryw i ni, ni a ddylen edrych arno megys

Page 133

cennad gwedi i anfon o'r néf i'n galw ni i'r Ddled-swydd hon, ac am hynny gwiliwn un am∣ser ei hesceuluso hi pan i'n rhybuddir fal hyn i'w chwplhau hi, rhag i ni fód o nifer y rhai a ddirmyga Gospedigaethau'r Arglwydd, Heb. 12.5.

30. Y mae etto amser arall o Edifeirwch, yr hwn yn ymarfer dynion a aeth ar fuddugoliaeth ar y lleill i gyd, ac hwnnw yw amser marwo∣laeth, yr hwn, gwir yw, sydd yn amser tra∣chymwys i adnewyddu ein Hedifeirwch, nid iw ddechreu ef; canys ynfydrwydd tra-gresynol yw ei oedi ef tan hynny. Oblegid i ddywedyd y goreu am hynny, y mae ûn trwy hyn yn pe∣ryglu ei Enaid ar y fáth betrusder resynol ar na feiddie gŵr synhwyrol ymddiried y pêth gwaelaf arno. Canys yn gyntaf, mi a chwennychwn ofyn i ryw ûn sydd yn bwriadu edifarhau ar amser Marwolaeth, pa fodd y gŵyr ef y ceiff fo awr o amser i hynny? Onid ydeni beunydd yn gweled cippio ymmaith rhai dynion mewn mu∣nydyn? A phwy a all ddywedyd nad hynny a sydd ei gyflwr ei hun? Ond yn ail, bwriwch iddo gael marwolaeth mwy arafaidd, sef, i ryw ddolur ei. rybuddio fo fód Angeu yn nessau, etto ysgatfydd ni ddealla ef mor rhybudd hwnnw, eithr parhau i'w wenheithio ei hun trwy obaith o fywyd hyd y diwedd, fal y gwná rhai cleifion yn dra-mynych: ac felly fe all ei farwolaeth ef sód yn ddisymmwth iddo, er iddo ddyfod trwy raddau araf iawn. Ond trachefn, yn drydydd, os efe a ddirnad ei Berigl, etto pa fódd y mae ef yn siccr y dichon ef y prŷd hynny edifarhau? Rhódd rasol Duw yw Edifeirwch, nid wrth ein harchiad ni; ac y mae 'n gyfiawn ac yn arferol

Page 134

gyda Duw, gwedi i Ddynion yn hîr o amser wrthod a dirmygu y Grâs hwnnw, wrthwynebu ei holl alwad a'i wahoddiadau ef i Edifeirwch a Gwellháad buchedd, ei rhoddi nhw i fynu o'r diwedd i galedwch ei Calonnau ei hunain, heb ganiadhau iddinhw ddim anghwaneg o'r Grâs hwnnw a ddirmygason'hw cyhyd. Etto bwri∣wch, yn bedwerydd, i Dduw o'i anfeidrol amm∣ynedd barhau etto i gynnyg i ti y Grás hwnnw, etto fe ddarfu i ti ei wrthwynebu ef ysgatfydd ddég ar hugain, deugain, neu ddengmhlynedd a deugain o'r ûn tû, pa fódd y gwyddosti y gelli di fwrw heibio yn ddisymmwth y ddull arferol honno o wrthwynebiad, a gwneuthur Defnydd o'r Grâs a gynnygir iti? Y mae'n siccr fód gen∣niti lawer mwy o achlysur tu ag at wneuthur hynny yr awrhon nag a fydd genniti y prŷd hynny.

31. Canys yn gyntaf, po hwyaf y cadwodd pechod feddiant yn dy galon di, annhawsach a fydd ei fwrw ef allan. Gwir yw, pe bydde Edifeirwch ddim ond gorphwys presennol oddi∣wrth weithredu pechod, y Clâf-wely a fydde gymhwysaf i hynny, canys yr amser hynny nid ydyni yn abl i weithredu y rhan fwyaf o Be∣chodau; ond mi a ddangosais i chwi o'r blaen fód Edifeirwch yn cynnwys llawer mwy na hynny, rhaid yw bód ynthi hi gassineb di-ragri∣thiol o bechod, a chariad o Dduw. Yn awr pa gyffelybrwydd sydd iddo ef, yr hwn yn ei holl fywyd oedd yn caru pechod, yn ei gyfleiddio ef yn ei fynwes, ac yn y gwrthwyneb oedd yn llwyr-gashau Duw a daioni, newid yn ddisym∣mwth ei anwydau, a chashau 'r pechod hwnnw

Page 135

yr oedd ef yn ei garu a charu Duw a daioni, y rhai yr oedd ef o'r blaen yn hollawl yn ei ga∣shau?

32. Ac yn ail fe fydde y penydau Corpho∣rawl ar dy gláf-wely yn dy rwystro di ac yn dy wneuthur yn anghymmwys iawn i'r weithred o Edifeirwch, yr hon sydd yn béth mor bwysfawr ac anhawdd, ác y gesyd hi dy holl nerth a'th egni di ar waith, ië pan fóch di gryfaf ac iachaf.

33. Ystyria y rhwystrau hynny a pha rai y bydd raid i ti ymdrechu yr amser hwnnw, ac yna dywed i mi pa obaith sydd y gwnei di y pryd hynny y peth ni wnei di yr awrhon pan yw haw∣sach o lawer iti. Ond yn drydydd, y mae perigl etto yn ól tu hwynt i'r rhain i gyd, sef na bydd yr Edifeirwch hwnnw i ba ûn y llithia Angeu di yn wir Edifeirweh; canys y mae 'n eglur yn y cyflwr hwnnw mae ofn Ʋffern yn unic sydd yn dy osod ti ar waith, yr hyn er ei fod yn ddechreuad da, lle y byddo amser ar ôl hynny i'w berffeithio ef, etto lle ni bo ond hynny yn unic ni thyccia fo byth er Jechydwriaeth. Yn awr y mae 'n rhy debyg mae o'r cyfryw fáth yn unic, gan mynychaf, ydyw yr Edifeirwch di∣weddar ymma ar y cláf-wely, os ystyrir, fôd llawer o ddynion a gymmerasant arnynt Edifar∣hau, pan oeddynt yn tybied ei bôd yn agos at angeu, y rhai gwedi i Dduw weled yn dda ei hadferu nhw drachefn i'w Hiechyd, fuant cyn∣ddrwg, ysgatfydd yn waeth nag erioed o'r blaen; yr hyn sydd yn dangos yn eglur nad oedd yn∣ddynt ddim gwir gyfnewidiad, ac yna yn ddiam∣meu pe buse 'r cyfryw ûn farw yn yr Edifeirwch

Page 136

ragrithiol hwnnw, ni buasei Duw, yr hwn sydd yn chwilio yr galon, yn derbyn y cyfryw Edifeirwch amherffaith. Pan osodir y peryglon hyn i gyd yn yr ûnlle, fe ymddengys yn eglur mae Rhyfyg tra-gresynol yw i un dyn ymddiried i Edifeirwch Clâf-wely. Ac nid yw hi ychwaith ddim llai er siampl y Leidr Edifeiriol ar y Groes, Luc. 23.43. yr hyn y mae llawer cymmaint yn hyderu arno. Oblegid diammeu yw fód ei gyflwr ef a'n hei∣ddo ni yn rhagori yn ddirfawr; ni chlywsei ef erioed son am Grist o'r blaen, ac felly nid ellid disgwyl dim ychwaneg gantho ef na'i gyfleidio ef cyn gynted ac y cynnygwyd ef iddo: ond fe 'i cynnygwyd ef i ni, ië ac fe fued yn daer arno∣ni o'n mebyd am ei dderbyn ef, ac etto nyni a'i gwrthodasom ef. Ond pe bae y Rhagoriaeth ymma heb fód, nid yw hi ond gobaith egwan yr hon a adeiledir ar ûn esampl yn unig, ac ni welwn ni yr ûn arall yn yr holl Scrythrl ân. Yr ydyni yn darllen fód yr Israeliaid yn cael ei por∣thi a Manna, o'r néf, etto oni welwchwi fo'n ynfyd iawn, yr hwn trwy ddisgwyl y cyffelyb peth, a esgeulusei baratoi ymborth iddo i hûn? Etto y mae 'n gwbl mor rhesymmol hyderu ar y naill Esampl ac ar y llall. Mi ddibendaf y cwbl a geiriau 'r gŵr Doeth, Preg. 12.1. Cofia dy Greawdr yn nyddiau dy Ieuengtid cyn dyfod y dyddiau drŵg arnat ti.

34. At y Ddledswydd ymma o Edifeirwch fe fydd yn gymmwys iawn gyssylltu Ympryd. Y mae 'r Scrythur yn fynych yn ei cwplhysu nhw ynghyd; Ymysg yr Iddewon yr oedd rhaid cadw'r dydd mawr o iawn gyda'g Ympryd, fal y mae i weled wrth gyffelybu, Levit. 16.31. ac

Page 137

Isai. 58.5. a hyn trwy gyhoeddus Orchymyn Duw i hún. Ac yn y Prophwydi pan elwir ar y Bobl i Eddifarhau, ac i'w hymddarostwng ei hunain, fe elwir hefyd arnynt hwy i Ymprydio. Fal hyn y mae, Joel, 2.12. Am hyuny yr awr hon medd yr Arglwydd, dychwelwch attafi a' ch holl galon, mewn Ympryd, ac wewn wylofain, &c. Iè mor briodol y cyfrifid Ympryd i Ddarostyngei∣ddrwydd, a bó Ahab ddrŵg yn ei harferu hi yn ei Ymddarostyngiad ef, Bren. 21.27. A'r Ninifeaid Digred yn ei Hedifeirwch hwythau. Jonah, 3.5. Nag ydyw hi lai cymmwys na llai cymmeradwy er amser Crist, nag o'r blaen. Oblegid ni a welwn ei fôd ef yn ei bwriadu hi yn Ddled-swydd weithian i'w chwplhau, pan yw ef yn rhoddi cyfarwyddiad i ochelyd gwâg Orfoledd ynthi hi, Math, 6.6. Ac y mae efe hefyd yn ein siccrhau ni os cwplheir hi fal y dylid, nid i fodd∣hau Dynion ond Duw, y caiff hi yn ddiammeu ei gwobru gantho ef. Ac felly y gwelwn ni fód y Seinctiau yn ei harferu hi. Yr oedd Anna Luc. 2.37. yn gwasanaethu Duw mewn Ympryd a Gweddi: lle y mae i'w nodi, ei bôd hi yn cael ei chyfrif megys gwasanaeth i Dduw yn gym∣mwys i'w chyssylltu gydá Gweddi. Ac yr oedd y Prif Gristianogion gynt yn gyffredinol yn arferu Ympryd yn fynych. Yn awr er bôd Ympryd yn bendifaddeu yn berthynasol i amser o ymddaro∣stwngeiddrwydd, etto nid ydyw hi felly gwedi i hattal, na ddichon hi fôd yn gyfaddas pa brŷd bynnag y bo gennini ryw beth rhagorol, i'w er∣fyn gan Dduw. Fal hyn pan ydoedd Esther yn ymegnio ymwared i'w phobl rhag dinistr, fe gadwodd hi a'r holl Iddewon ympryd cyhoeddus, Est. 4.16. Fal hyn hefyd pan ydoedd Paul a

Page 130

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 131

〈1 page duplicate〉〈1 page duplicate〉

Page 138

Barnabas i'w Hurddo yn Apostolion, yr oedd Ym∣pryd gwedi i gyssylltu at Weddi, Act. 13.3. Ac felly y bydd yn dra-chymmwys i ninnau, pa∣brŷd bynnag y bo arnoni efieu rhyw gyfar∣wyddiad ragorol, neu gymmorth gan Dduw, naill ai ynghylch ein perthynasau amserol neu Ysprydol, fal hyn gynnhyrfu ein Gweddiau trwy Ympryd. Ond uchlaw pób Achosion, fe ofyn amser ymddarost yngeiddrwydd hynn y ar ein dwylo ni, canys heb law 'r achlysur o gynneu ein Zél ni, yr hyn nid ydyw ún amser mor angenrheidiol a phan foni yn gweddio am Faddeuant pechodau, y mae Ympryd yn cynnwys ynddi hi beth dial, yr hyn a gyfrifir megys yn rhan enwidegol o Edifeirwch, 2 Cor. 7.11. Canys trwy naccau i'n cyrph ein hymborth arferedig, yr ydyni yn gosod Gospedigaeth arnoni ein hunain am ein gormodedd o'r blaen, neu am ba Becho∣dau bynnag eraill yr ydyni y prýd hynny yn ein eyhuddo ein hunain o'i plegid, yr hyn yw ffrwyth briodol y digllonrhwydd hwnnw a ddyle fód gan bob pechadur yn ei erbyn ei hun. Ac yn wir y mae 'r neb sydd mor dyner o hono i hûn, ac na chlyw fo un amser ar ei galon omeddu prŷd o fywyd, mewn módd o Gospedigaeth am ei feiau, yn dangos nad ydyw ef gwedi syrthio allan fawr ac efó i hun, am ei gwneuthur hwynt, ac felly y mae fo 'n ddiffygiol o'r digllonrhwydd hwnnw yr hwn y mae yr Apostol yn y Testyn rhagddywededig yn i wneuthur yn rhan o wir Edifeirwch.

35. Nid oes ammeu nad ydyw 'r cyfryw ddial Sanctaidd arnoni ein hunain am ein pechodau yn gymmeradwy iawn gan Dduw; Er hynny gwi∣liwn

Page 139

dybied y dichon hyn, na dim arall ar a wneloni, wneuthur iawn am ein camweddau ni, canys nid oes dim ond Gwaed Grist a ddichon hynny. Ac am hynny ar hwnnw yn unic, ac nid ar yr un o'n gweithredoedd ein hunain mae i ni hyderu am faddeuant. Etto gan na chaiff nêb y búdd o'r gwaed hwnnw ond pechadu∣riaid edifeiriol, y mae 'n gymmaint yn sefyll arnoni ddwyn allan holl ffrwythau o Edifeirwch, a phe bae ein Gobaith ni yn sefyll arnynt hwy yn unic.

36. Nid ydyw'r Sorythur yn un lle yn ein cyfar∣wyddo ni fynyched y bydd rhaid i ni gwplhau'r Dledswydd hon o Ympryd. Rhaid ydyw trefnu hynny gan Dduwioldeb dynion, yn ôl fal y bo ei Iechyd neu Achosion eraill yn rhoddi cennad. Ond megys ac y mae mewn ymddarostyngeidd∣rwydd, po mynychaf y gosodoni amser neillduol iddo, goreu yw; felly hefyd y mae mewn Ympryd, po mynychaf, goreu, trwy na bo hynny yn niweidiol i'n Hiechyd ni, neu i ryw Ddled∣swydd arall a ofynnir gennin i. Ie, ysgatfydd, fe all Ympryd helpio rhai dynion i ychwaneg o'r amserau hynny o Ddarostyngeiddrwydd, nag a ennillenhw oni bae hynny: oblegid fôd rhai ysgatfydd, nad allant, heb rwystr ddirfawr i'w Galwedigaeth, osod heibio Ddydd cyfan i'r gorch∣wyl hwnnw, etto fe all y cyfryw ûn o'r lleiaf osod hebio yr amser hwnnw a dreulia fe yn Bwyta: Ac felly fe fydd Ympryd ddwy ffordd yn fuddiol tu ag at Ymddarostyngiad y cyfryw ûn, yn gystal trwy ei gynnorthwyo fo yn y Dleddswydd, a thrwy ennill iddo ef Amser i'w chwpl∣hau hi.

Page 140

37. Mi a dreiddiais bellach y rhan gyntaf o'n Ddledswydd i Dduw, sef, ei gydnabod ef i fód yn Dduw. yr ail yw na bo i ni gymmeryd yr ún arall. Am ba un nid rhaid i ni ddywedyd fawr, megys ac y mae 'n waharddiad o'r fáth waethaf hynny o Eulyn-addoliaeth Baganaidd, addoli delwau yr hyn er ei fód unwaith yn gyffredinol yn y bŷd, etto sydd yr awrhon mor anaml, nad ydyw gy∣ffelyb y bydd néb a ddarllenno 'r Llyfr hwn yn euog o hono. Yn unic rhaid i ni ddywedyd, fód talu Addoliant perthynol i Dduw, i un Creadur, bydded yn Sainct neu Angel, iê neu Ddelw Crist i hûn, en drosseddiad o'r ail rhan ymma o'n Dled-swydd i Dduw, gan fôd hynny yn rhoddi cyfran i'r Creadur o'r peth sydd yn unic yn ddledus i Dduw, ac am hyny fe ddylid yn llwyr-ddwys ymwrthod ac ef.

38. Ond y mae máth arall o Eulyn-Addoliaeth, o ba ún yr ydyni oll yn gyffredinol yn euog, sef, pan foni yn talu yr ún o'r anwydau hynny o Ga∣riad, Ofn, Hyder, a'r cyffelyb i ún Creadur mewn Grâdd uwch nag i Dduw: canys nid yw hynny ddim llai na gosod i fynu hwnnw, pa beth byn∣nag a fytho, yn Dduw i ni. Ac y mae'r fath ymma o Eulyn-addoliaeth oddifewn yn annog Duw i eiddigedd yn gystal ac Addoli Delw oddiallan, Mi a allwn ehangi llawer ar hyn, ond oblegid i mi grybwyll am amryw rai o honynt yn y Traethawd o'r blaen, yr wyfi 'n meddwl nad yw hynny angenrheidiol; mi a áf ymlaen gan hynny yr awrhon at yr ail Pwngc o Ddled-swydd, sef ein Dlêd tu ag attom ein Hunain.

Notes

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.