PEN. VIII.
Am offrwm Christ ar y groes, ac am ymroddi einhunain iddo ef.
LLEFERYDD YR ANWYL GAREDIC.
1. MEgis y darfu i myfi, a'm dwylo gwedi eu lledu ar y Groes, ac a'm corph yn crogi'n noeth∣lummyn, tros dy bechodau di, o'm
To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.
LLEFERYDD YR ANWYL GAREDIC.
1. MEgis y darfu i myfi, a'm dwylo gwedi eu lledu ar y Groes, ac a'm corph yn crogi'n noeth∣lummyn, tros dy bechodau di, o'm
gwîr fodd, offrwm fyhunan'i Dduw'r Tâd, yn y modd ac nad oedd dim yn aros ynof, nad aeth igyd yn Aberth i ryngu bodd i Dduw:
Felly y dylit tithau o'th wîr fodd offrymmu dyhun yn Aberth burlan sanctaidd imi beunydd yn yr Offeren, gyda▪th holl nerthoedd a'th ewyllys∣fryd, yn gymmaint ac y gelli o wae∣lod dy galon.
Beth a geisiaf gennyti n hyttrach, nac astudio i'th rhoi dy hun yn ho∣llawl imi.
Pabeth bynnac a roddi imi heboti dyhun, nis gwnaf ddim prîs ohono: am nad wyfi'n ceisio dy rodd di, ond tydi dyhun.
2. Megis na byddai ddigon iti gael pob peth hebofi: felly nis geill rhyn∣gu bodd i minnau, y peth bynnac a roddi i myfi, oddieithr iti roddi dy∣hunan.
Offrymma dyhun imi, a dyro dy∣hunan igyd i Dduw, a hynny y fydd yn Offrwm gymmeradwy.
Wele, myfi a offrymmais fyhun igyd i'm Tad trosoti: rhoddais he∣fyd
yn-gorph a'm gwaed igyd yn ymborth iti, fel y byddwn igyd o'th eiddo di, ac y parhêi dithau o'm heiddo innau.
Ond os tydi a sefi arnat dyhunan, ac nis rhoddi dyhun o'th wîr fodd i'm hewyllys i, ni bydd hynny'n gy∣flawn offrwm, ac ni bydd mor cyt∣tundeb cyfangwbl rhyngom.
Amhynny boddlawn offrwm oho∣not dyhun yn nwylo Duw, a ddylai ragflaenu dy holl weithredoedd di, os tydi a fynni gael rhydd-did a grâs.
Canys oherwydd hynny y mae'n bod, nas gwnair nemmor yn lywy∣chedic ac yn rhydd, am nas medrant yn llwyr-gwbl ymwadu a'i hunain.
Diogelwîr yw yn-gair i.
Oddi∣eithr i neb ohonochwi ymwrthod a'r cwbl a feddo, nis gall ef fod yn Ddiscybl imi,Luc. 14. 33. Tydi ganhynny os mynni fod yn Ddiscybl imi, offrymma dyhunan imi, gyda'th holl ewyllysfryd.