Dilyniad Christ a elwir yn gyffredin Thomas a Kempis. Gwedi ei gyfieithu'n Gymraec ers talm o amser ynol Editiwn yr Awdur gan Huw Owen Gwenynoc ym M̂on, Esq;

About this Item

Title
Dilyniad Christ a elwir yn gyffredin Thomas a Kempis. Gwedi ei gyfieithu'n Gymraec ers talm o amser ynol Editiwn yr Awdur gan Huw Owen Gwenynoc ym M̂on, Esq;
Author
Thomas, à Kempis, 1380-1471.
Publication
Llundain :: gwedi ei imprintio ar gôst I.[ohn] H.[ughes],
MDCLXXXIV. [1684]
Rights/Permissions

To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.

Subject terms
Thomas, -- à Kempis, 1380-1471 -- Early works to 1800.
Jesus Christ -- Example -- Early works to 1800.
Devotional literature -- Early works to 1800.
Christian life -- Early works to 1800.
Cite this Item
"Dilyniad Christ a elwir yn gyffredin Thomas a Kempis. Gwedi ei gyfieithu'n Gymraec ers talm o amser ynol Editiwn yr Awdur gan Huw Owen Gwenynoc ym M̂on, Esq;." In the digital collection Early English Books Online. https://name.umdl.umich.edu/A95719.0001.001. University of Michigan Library Digital Collections. Accessed May 3, 2024.

Pages

PEN. XI.
Am geisio heddwch, ac am fod yn wresog i gael llês ysprydol.

1. LLawer o heddwch a allem ei gael, oni bai'n bod ni yn ymdrafferthu a geiriau ac a gweithre∣doedd rhai eraill, ac a phethau nid ydynt yn perthyn ddim i nyni.

Pafodd y geill ef barhau chwaith hîr yn heddwch, yr hwn sy'n gwthio eihunan i negessau a gofalon rhai era∣ill? yr hwn sy'n ceisio achosion oddi∣allan? yr hwn nid yw ond yn fychan neu'n anfynych, yn cynnull ei feddy∣liau atto, i ystyried eihun oddimewn.

Page 26

Gwyneubyd y rhai syml, canys mae heddwch mawr ganthynt hwy.

2. Pam y bu rhai o'r Seinct mor berffaith ac mor synniedigawl ar be∣than ysprydol?

Am ddarsod iddynt farweiddio'n llwyr eu trachwantau daearol: ac amhynny roeddent o waelod eu calon yn gallu glynu wrth Dduw, ac edrych yn ddirwystr arnynt euhunain.

Rydym ni'n gadael i'n chwantau bydol wasgu gormod arnom, ac yn gofalu'n rhy fawr am bethau darso∣dedic.

Anfynych hefyd y gorchfygwn vn bai'n hollawl: ac nid ydym yn gwre∣sogi i geisio proffit ysprydol beunydd: amhynny yr ydym yn parhàu ynllwyr glaear ac yn oerllyd.

3. Pettem ni gwedi marw'n ho∣llawl ini einhunain, ac heb ein rhwy∣stro oddimewn; yna y gallem ym∣glywed duwfawl bethau, a phrofi peth myfyrdod nefawl.

Y cwbl a'r mwyaf rhwystr ydyw, nad ydym yn rhydd oddiwrth ein gwyniau a'n trachwantan cnawdol, ac

Page 27

nas ceisiwn syned i mewn i berffaith ffordd y Seinct.

Oblegid pan ddelo gwrthwyneb bychan i ymgyfarfod a ni, rhy fuan y bwrir ni i-lawr, ac y troir ni i geisio cyssur gan ddynion.

4. Pettem ni'n gwneuthur ein go∣reu, megis gwyrdewr i sefyll yn yr ymladd: ynddiau ni gaem weled cymmhorth ein Harglwydd o'r nef yn dyfod arnom.

Oherwydd ei fod ef yn barod i helpu'r sawl y fo'n ymladd yn wrol; ac yn gobeithio'n ei râs ef: ac yn danfon achos ini i ymladd fel y ga∣llom orchfygu.

Os cyfrifwn fod proffit ein buchedd grefyddol, yn sefyll ynvnic ar y gwar∣chadaethau hyn sydd oddiallan, buan y bydd diwedd o'n duwioldeb ni.

Eithr gosodwn y fwyall ar y bôn, fel gwedi'n glanhâu o'n gwynniau, y gallom feddiannu meddwl heddych∣lon.

5. Pettem ni'n diwreiddio ond vn bai bob blwyddyn: buan y byddem yn ddynion perffaith.

Page 28

Ond rwön rydym yn gweled y gwrthwyneb, a'n bod ni'n well ac o burach ein cydwybod yn nechreu ein hymarweddiad crefyddol, nac arol llawer blwyddyn o'n proffessiwn.

Ein gwrês a'n proffit ysprydol a ddylai chwanegu beunydd: ond yn∣awr fe a welir yn beth mawr, os bydd gan ddyn ran o'r gwrês y fu gantho ar y cyntaf.

Pettem ni yn gweithio'n nerthol ac yn fforddrych yn y dechreu, yna y gallem wneuthur y cwbl wedi hynny'n rhwydd ac yn llawen iawn.

6. Blîn ydyw gadael y pethau y syddem yn arfer eu gwneuthur, ond blinach yw mynd yn erbyn ein hewy∣llys einhun.

Eithr odd eithr iti orchsygu pe∣thau ysgafn a bychain, pabryd y cei di y maes ar y pethau y fo calettach?

Sâf yn erbyn dy duedd drwg yn y dechreu, a gollwng ynanghof dy ar∣serau beius: rhag iddynt dy ddwyn di bob ychydic i fwy anhawsder.

Oh! pettiti yn ystyried, pafaint o heddwch a wnait iti dyhun, ac o law∣enydd

Page 29

i eraill wrth ymddwyn dyhun∣an yn dda, rwyf yn meddwl y byddit yn ofalach i geisio proffit ysprydol.

Do you have questions about this content? Need to report a problem? Please contact us.