Gweddi yn ôl Ciniaw.
BEndigedig fyddo dy Enw, O Dâd trugaredd, am dy anfeidrol gariad ymrhynnedigaeth y Bŷd trwy ein Harglwydd Iesu Grist, am y
To the extent possible under law, the Text Creation Partnership has waived all copyright and related or neighboring rights to this keyboarded and encoded edition of the work described above, according to the terms of the CC0 1.0 Public Domain Dedication (http://creativecommons.org/publicdomain/zero/1.0/). This waiver does not extend to any page images or other supplementary files associated with this work, which may be protected by copyright or other license restrictions. Please go to http://www.textcreationpartnership.org/ for more information.
BEndigedig fyddo dy Enw, O Dâd trugaredd, am dy anfeidrol gariad ymrhynnedigaeth y Bŷd trwy ein Harglwydd Iesu Grist, am y
moddion o Râs ac am Obaith Gogoniant.
Yr wyf yn dy fendithio, O Dduw, ddarfod fy ngyssegru yn gynnar i'th wasanaeth di trwy Fedŷdd; pan i'm gwnaethwyd yn Aelod o Grist, yn Blentŷn i Dduw, ac yn Etifedd Teyrnas Nêf.
Ond myfi a ddiystyrais ac a ddirmygais yr holl fendithion hynny. Arglwydd, trugarhâ wrthif, a maddeu i mi fy mhechod, canys mawr yw.
Ac mewn hyder ar dy raslawn ddaioni di, yr wŷf yma o Eigion fy nghalon, yn adnewyddu, O fy Nuw, yr adduned honno, yr hon a dorrais i cyn fynyched.
Yr wŷf yn ymwrthod a Diafol a'i holl weithredoedd, rhodres a gorwagedd y Bŷd an∣wir hwn, a holl bechadurus chwantau'r cnawd. Yr wŷf yn credu holl byngciau ffŷdd Grist. Ac myfi a gadwaf wynfydedig ewyllŷs Duw a'i Orchymmynion, ac a rhodiaf ynddynt holl ddyddiau fy mywyd.
Hyn ôll, O fy Nuw, yr wŷf yn rhwymedig i gredu ac i wneuthyr; a thrwy dy nerth di felly y gwnaf. Ac yr wŷf yn mawr ddiolch i ti, O Dâd nefol, yr hwn a'm galwaist i'r Iech∣yd wriaeth hyn, trwy Iesu Grist fy unig Iach∣awdwr. Ac yr wŷf yn attolwg i ti, O Dduw, roddi i mi dy Râd, modd y g••llwyf aros ynddo holl ddyddiau fy Einioes. Amen.